Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Gweddi Dafydd.
86 Gostwng, O Arglwydd, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf. 2 Cadw fy enaid; canys sanctaidd ydwyf: achub di dy was, O fy Nuw, yr hwn sydd yn ymddiried ynot. 3 Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys arnat y llefaf beunydd. 4 Llawenha enaid dy was: canys atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid. 5 Canys ti, O Arglwydd, ydwyt dda, a maddeugar; ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat. 6 Clyw, Arglwydd, fy ngweddi; ac ymwrando â llais fy ymbil. 7 Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi. 8 Nid oes fel tydi ymysg y duwiau, O Arglwydd; na gweithredoedd fel dy weithredoedd di. 9 Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, O Arglwydd; ac a ogoneddant dy enw. 10 Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau: ti yn unig wyt Dduw.
43 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses ac Aaron, Dyma ddeddf y Pasg: na fwytaed neb dieithr ohono. 44 Ond pob gwasanaethwr wedi ei brynu am arian, gwedi yr enwaedych ef, a fwyty ohono. 45 Yr alltud, a’r gwas cyflog, ni chaiff fwyta ohono. 46 Mewn un tŷ y bwyteir ef: na ddwg ddim o’r cig allan o’r tŷ; ac na thorrwch asgwrn ohono. 47 Holl gynulleidfa Israel a wnânt hynny. 48 A phan arhoso dieithr gyda thi, ac ewyllysio cadw Pasg i’r Arglwydd, enwaeder ei holl wrywiaid ef, ac yna nesaed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwytaed neb dienwaededig ohono. 49 Yr un gyfraith fydd i’r priodor, ac i’r dieithr a arhoso yn eich mysg.
5 Canys nid i’r angylion y darostyngodd efe y byd a ddaw, am yr hwn yr ydym yn llefaru. 6 Eithr un mewn rhyw fan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Pa beth yw dyn, i ti i feddwl amdano? neu fab dyn, i ti i ymweled ag ef? 7 Ti a’i gwnaethost ef ychydig is na’r angylion: â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ti ef, ac a’i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylo: 8 Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef. Canys wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb ddarostwng iddo. Ond yr awron nid ydym ni eto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo. 9 Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu, yr hwn a wnaed ychydig yn is na’r angylion, oherwydd dioddef marwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd; fel trwy ras Duw y profai efe farwolaeth dros bob dyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.