Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau.
126 Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio. 2 Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn. 3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen. 4 Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau. 5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd. 6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.
9 Ac ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis hwn, meibion Israel a ymgynullasant mewn ympryd, ac mewn sachliain, a phridd arnaddynt. 2 A had Israel a ymneilltuasant oddi wrth bob dieithriaid, ac a safasant, ac a gyffesasant eu pechodau, ac anwireddau eu tadau. 3 A chodasant i fyny yn eu lle, ac a ddarllenasant yn llyfr cyfraith yr Arglwydd eu Duw, bedair gwaith yn y dydd; a phedair gwaith yr ymgyffesasant, ac yr ymgrymasant i’r Arglwydd eu Duw.
4 Yna y safodd ym mhulpud y Lefiaid, Jesua, a Bani, Cadmiel, Sebaneia, Bunni, Serebeia, Bani, a Chenani; a gwaeddasant â llef uchel ar yr Arglwydd eu Duw: 5 A’r Lefiaid, Jesua, a Chadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia, a Phethaheia, a ddywedasant, Cyfodwch, bendithiwch yr Arglwydd eich Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: a bendithier dy enw gogoneddus a dyrchafedig, goruwch pob bendith a moliant. 6 Ti yn unig wyt Arglwydd: ti a wnaethost y nefoedd, nefoedd y nefoedd, a’u holl luoedd hwynt, y ddaear a’r hyn oll sydd arni, y moroedd a’r hyn oll sydd ynddynt; a thi sydd yn eu cynnal hwynt oll; a llu y nefoedd sydd yn ymgrymu i ti. 7 Ti yw yr Arglwydd Dduw, yr hwn a ddetholaist Abram, ac a’i dygaist ef allan o Ur y Caldeaid, ac a roddaist iddo enw Abraham: 8 A chefaist ei galon ef yn ffyddlon ger dy fron di, ac a wnaethost gyfamod ag ef, ar roddi yn ddiau i’w had ef wlad y Canaaneaid, yr Hefiaid, yr Amoriaid, a’r Pheresiaid, a’r Jebusiaid, a’r Girgasiaid; ac a gwblheaist dy eiriau: oherwydd cyfiawn wyt.
12 A bu yn y dyddiau hynny, fyned ohono ef allan i’r mynydd i weddïo; a pharhau ar hyd y nos yn gweddïo Duw.
13 A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd ato ei ddisgyblion: ac ohonynt efe a etholodd ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn apostolion; 14 Simon (yr hwn hefyd a enwodd efe Pedr,) ac Andreas ei frawd; Iago, ac Ioan; Philip, a Bartholomeus; 15 Mathew, a Thomas; Iago mab Alffeus, a Simon a elwir Selotes; 16 Jwdas brawd Iago, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.
17 Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a safodd mewn gwastatir; a’r dyrfa o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Jwdea a Jerwsalem, ac o duedd môr Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrando arno, ac i’w hiacháu o’u clefydau, 18 A’r rhai a flinid gan ysbrydion aflan: a hwy a iachawyd. 19 A’r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef; am fod nerth yn myned ohono allan, ac yn iacháu pawb.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.