Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
116 Da gennyf wrando o’r Arglwydd ar fy llef, a’m gweddïau. 2 Am ostwng ohono ei glust ataf, am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef.
12 Beth a dalaf i’r Arglwydd, am ei holl ddoniau i mi? 13 Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf. 14 Fy addunedau a dalaf i’r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef. 15 Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef. 16 O Arglwydd, yn ddiau dy was di ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, mab dy wasanaethwraig: datodaist fy rhwymau. 17 Aberthaf i ti aberth moliant; a galwaf ar enw yr Arglwydd. 18 Talaf fy addunedau i’r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl, 19 Yng nghynteddoedd tŷ yr Arglwydd, yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr Arglwydd.
10 A chymerodd y gwas ddeg camel, o gamelod ei feistr, ac a aeth ymaith: (canys holl dda ei feistr oedd dan ei law ef;) ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i ddinas Nachor. 11 Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd o’r tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar brynhawn, ynghylch yr amser y byddai merched yn dyfod allan i dynnu dwfr. 12 Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, atolwg, pâr i mi lwyddiant heddiw; a gwna drugaredd â’m meistr Abraham. 13 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr: 14 A bydded, mai y llances y dywedwyf wrthi, Gogwydda, atolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i’th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur ohonot ti drugaredd â’m meistr.
15 A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Rebeca yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham,) a’i hystên ar ei hysgwydd. 16 A’r llances oedd deg odiaeth yr olwg, yn forwyn, a heb i ŵr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i’r ffynnon, ac a lanwodd ei hystên, ac a ddaeth i fyny. 17 A’r gwas a redodd i’w chyfarfod, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi yfed ychydig ddwfr o’th ystên. 18 A hi a ddywedodd, Yf, fy meistr: a hi a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên ar ei llaw, ac a’i diododd ef. 19 A phan ddarfu iddi ei ddiodi ef, hi a ddywedodd, Tynnaf hefyd i’th gamelod, hyd oni ddarffo iddynt yfed. 20 A hi a frysiodd, ac a dywalltodd ei hystên i’r cafn, ac a redodd eilwaith i’r pydew i dynnu, ac a dynnodd i’w holl gamelod ef. 21 A’r gŵr, yn synnu o’i phlegid hi, a dawodd, i wybod a lwyddasai yr Arglwydd ei daith ef, ai naddo. 22 A bu, pan ddarfu i’r camelod yfed, gymryd o’r gŵr glustlws aur, yn hanner sicl ei bwys; a dwy freichled i’w dwylo hi, yn ddeg sicl o aur eu pwys. 23 Ac efe a ddywedodd, Merch pwy ydwyt ti? mynega i mi, atolwg: a oes lle i ni i letya yn nhŷ dy dad? 24 A hi a ddywedodd wrtho, Myfi ydwyf ferch i Bethuel fab Milca, yr hwn a ymddûg hi i Nachor. 25 A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i letya. 26 A’r gŵr a ymgrymodd, ac a addolodd yr Arglwydd. 27 Ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd a’i ffyddlondeb: yr ydwyf fi ar y ffordd; dug yr Arglwydd fi i dŷ brodyr fy meistr. 28 A’r llances a redodd, ac a fynegodd yn nhŷ ei mam y pethau hyn.
29 Ac i Rebeca yr oedd brawd, a’i enw Laban: a Laban a redodd at y gŵr allan i’r ffynnon. 30 A phan welodd efe y clustlws, a’r breichledau am ddwylo ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebeca ei chwaer yn dywedyd, Fel hyn y dywedodd y gŵr wrthyf fi; yna efe a aeth at y gŵr; ac wele efe yn sefyll gyda’r camelod wrth y ffynnon. 31 Ac efe a ddywedodd, Tyred i mewn, ti fendigedig yr Arglwydd; paham y sefi di allan? canys mi a baratoais y tŷ, a lle i’r camelod.
32 A’r gŵr a aeth i’r tŷ: ac yntau a ryddhaodd y camelod, ac a roddodd wellt ac ebran i’r camelod; a dwfr i olchi ei draed ef, a thraed y dynion oedd gydag ef. 33 A gosodwyd bwyd o’i flaen ef i fwyta; ac efe a ddywedodd, Ni fwytâf hyd oni thraethwyf fy negesau. A dywedodd yntau, Traetha. 34 Ac efe a ddywedodd, Gwas Abraham ydwyf fi. 35 A’r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynyddodd: canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwartheg, ac arian, ac aur, a gweision, a morynion, a chamelod, ac asynnod. 36 Sara hefyd gwraig fy meistr a ymddûg fab i’m meistr, wedi ei heneiddio hi; ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo. 37 A’m meistr a’m tyngodd i, gan ddywedyd, Na chymer wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu tir. 38 Ond ti a ei i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, ac a gymeri wraig i’m mab. 39 A dywedais wrth fy meistr, Fe allai na ddaw y wraig ar fy ôl i. 40 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr Arglwydd yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyda thi, ac a lwydda dy daith di; a thi a gymeri wraig i’m mab i o’m tylwyth, ac o dŷ fy nhad. 41 Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw, os ti a ddaw at fy nhylwyth; ac oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy llw. 42 A heddiw y deuthum at y ffynnon, ac a ddywedais, Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith, yr hon yr wyf fi yn myned arni: 43 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr; a’r forwyn a ddelo allan i dynnu, ac y dywedwyf wrthi, Dod i mi, atolwg, ychydig ddwfr i’w yfed o’th ystên; 44 Ac a ddywedo wrthyf finnau, Yf di, a thynnaf hefyd i’th gamelod: bydded honno y wraig a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr. 45 A chyn darfod i mi ddywedyd yn fy nghalon, wele Rebeca yn dyfod allan, a’i hystên ar ei hysgwydd; a hi a aeth i waered i’r ffynnon, ac a dynnodd: yna y dywedais wrthi, Dioda fi, atolwg. 46 Hithau a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên oddi arni, ac a ddywedodd, Yf; a mi a ddyfrhaf dy gamelod hefyd. Felly yr yfais; a hi a ddyfrhaodd y camelod hefyd. 47 A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, Merch pwy ydwyt ti? Hithau a ddywedodd, Merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddûg Milca iddo ef. Yna y gosodais y clustlws wrth ei hwyneb, a’r breichledau am ei dwylo hi: 48 Ac a ymgrymais, ac a addolais yr Arglwydd, ac a fendithiais Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn a’m harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymryd merch brawd fy meistr i’w fab ef. 49 Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd a ffyddlondeb â’m meistr, mynegwch i mi: ac onid e, mynegwch i mi; fel y trowyf ar y llaw ddeau, neu ar y llaw aswy. 50 Yna yr atebodd Laban a Bethuel, ac a ddywedasant, Oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn: ni allwn ddywedyd wrthyt ddrwg, na da. 51 Wele Rebeca o’th flaen; cymer hi, a dos, a bydded wraig i fab dy feistr, fel y llefarodd yr Arglwydd. 52 A phan glybu gwas Abraham eu geiriau hwynt, yna efe a ymgrymodd hyd lawr i’r Arglwydd.
7 Yna yr ymgasglodd ato y Phariseaid, a rhai o’r ysgrifenyddion a ddaethai o Jerwsalem. 2 A phan welsant rai o’i ddisgyblion ef â dwylo cyffredin (hynny ydyw, heb olchi,) yn bwyta bwyd, hwy a argyhoeddasant. 3 Canys y Phariseaid, a’r holl Iddewon, oni bydd iddynt olchi eu dwylo yn fynych, ni fwytânt; gan ddal traddodiad yr hynafiaid. 4 A phan ddelont o’r farchnad, oni bydd iddynt ymolchi, ni fwytânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a gymerasant i’w cadw; megis golchi cwpanau, ac ystenau, ac efyddynnau, a byrddau. 5 Yna y gofynnodd y Phariseaid a’r ysgrifenyddion iddo, Paham nad yw dy ddisgyblion di yn rhodio yn ôl traddodiad yr hynafiaid, ond bwyta eu bwyd â dwylo heb olchi? 6 Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi, ragrithwyr, fel y mae yn ysgrifenedig, Y mae’r bobl hyn yn fy anrhydeddu i â’u gwefusau, ond eu calon sydd bell oddi wrthyf. 7 Eithr ofer y maent yn fy addoli, gan ddysgu yn lle dysgeidiaeth, orchmynion dynion. 8 Canys, gan adael heibio orchymyn Duw, yr ydych yn dal traddodiad dynion; sef golchiadau ystenau a chwpanau: a llawer eraill o’r cyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur. 9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwych yr ydych yn rhoi heibio orchymyn Duw, fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain. 10 Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a’th fam: a’r hwn a felltithio dad neu fam, bydded farw’r farwolaeth. 11 Ac meddwch chwithau, Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam, Corban, hynny yw, Rhodd, trwy ba beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi; difai fydd. 12 Ac nid ydych mwyach yn gadael iddo wneuthur dim i’w dad neu i’w fam; 13 Gan ddirymu gair Duw â’ch traddodiad eich hunain, yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau â hynny yr ydych yn eu gwneuthur.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.