Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
116 Da gennyf wrando o’r Arglwydd ar fy llef, a’m gweddïau. 2 Am ostwng ohono ei glust ataf, am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef.
12 Beth a dalaf i’r Arglwydd, am ei holl ddoniau i mi? 13 Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf. 14 Fy addunedau a dalaf i’r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef. 15 Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef. 16 O Arglwydd, yn ddiau dy was di ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, mab dy wasanaethwraig: datodaist fy rhwymau. 17 Aberthaf i ti aberth moliant; a galwaf ar enw yr Arglwydd. 18 Talaf fy addunedau i’r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl, 19 Yng nghynteddoedd tŷ yr Arglwydd, yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr Arglwydd.
21 A’r Arglwydd a ymwelodd â Sara fel y dywedasai, a gwnaeth yr Arglwydd i Sara fel y llefarasai. 2 Oherwydd Sara a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai Duw wrtho ef. 3 Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo (yr hwn a ymddygasai Sara iddo ef) Isaac. 4 Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab, yn wyth niwrnod oed; fel y gorchmynasai Duw iddo ef. 5 Ac Abraham oedd fab can mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.
6 A Sara a ddywedodd, Gwnaeth Duw i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyda mi. 7 Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoesai Sara sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef.
3 Oherwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfranogion o’r galwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, Crist Iesu; 2 Yr hwn sydd ffyddlon i’r hwn a’i hordeiniodd ef, megis ag y bu Moses yn ei holl dŷ ef. 3 Canys fe a gyfrifwyd hwn yn haeddu mwy gogoniant na Moses, o gymaint ag y mae yr hwn a adeiladodd y tŷ yn cael mwy o barch na’r tŷ. 4 Canys pob tŷ a adeiledir gan ryw un; ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw. 5 A Moses yn wir a fu ffyddlon yn ei holl dŷ megis gwas, er tystiolaeth i’r pethau oedd i’w llefaru; 6 Eithr Crist, megis Mab ar ei dŷ ei hun: tŷ yr hwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyder a gorfoledd ein gobaith yn sicr hyd y diwedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.