Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
41 Deued i mi dy drugaredd, Arglwydd, a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air. 42 Yna yr atebaf i’m cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais. 43 Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais. 44 A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd. 45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf. 46 Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf. 47 Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais. 48 A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.SAIN
17 Aphan oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr Arglwydd i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith. 2 A mi a wnaf fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a’th amlhaf di yn aml iawn. 3 Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd Duw wrtho ef, gan ddywedyd, 4 Myfi, wele, mi a wnaf fy nghyfamod â thi, a thi a fyddi yn dad llawer o genhedloedd. 5 A’th enw ni elwir mwy Abram, onid dy enw fydd Abraham; canys yn dad llawer o genhedloedd y’th wneuthum. 6 A mi a’th wnaf yn ffrwythlon iawn, ac a wnaf genhedloedd ohonot ti, a brenhinoedd a ddaw allan ohonot ti. 7 Cadarnhaf hefyd fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a’th had ar dy ôl di, trwy eu hoesoedd, yn gyfamod tragwyddol, i fod yn Dduw i ti, ac i’th had ar dy ôl di. 8 A mi a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ôl di, wlad dy ymdaith, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragwyddol; a mi a fyddaf yn Dduw iddynt.
9 A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Cadw dithau fy nghyfamod i, ti a’th had ar dy ôl, trwy eu hoesoedd. 10 Dyma fy nghyfamod a gedwch rhyngof fi a chwi, a’th had ar dy ôl di: enwaedir pob gwryw ohonoch chwi. 11 A chwi a enwaedwch gnawd eich dienwaediad: a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a chwithau. 12 Pob gwryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich cenedlaethau: yr hwn a aner yn tŷ, ac a bryner am arian gan neb dieithr, yr hwn nid yw o’th had di. 13 Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fy nghyfamod yn eich cnawd chwi, yn gyfamod tragwyddol. 14 A’r gwryw dienwaededig, yr hwn nid enwaeder cnawd ei ddienwaediad, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl: oblegid efe a dorrodd fy nghyfamod i.
15 Duw hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai, onid Sara fydd ei henw hi. 16 Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fab ohoni: ie bendithiaf hi, fel y byddo yn genhedloedd; brenhinoedd pobloedd fydd ohoni hi. 17 Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb, ac a chwarddodd, ac a ddywedodd yn ei galon, A blentir i fab can mlwydd? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwar ugain? 18 Ac Abraham a ddywedodd wrth Dduw, O na byddai fyw Ismael ger dy fron di! 19 A Duw a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddiau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol, ac â’i had ar ei ôl ef. 20 Am Ismael hefyd y’th wrandewais: wele, mi a’i bendithiais ef, a mi a’i ffrwythlonaf ef, ac a’i lluosogaf yn aml iawn: deuddeg tywysog a genhedla efe, a mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr. 21 Eithr fy nghyfamod a gadarnhaf ag Isaac, yr hwn a ymddŵg Sara i ti y pryd hwn, y flwyddyn nesaf. 22 Yna y peidiodd â llefaru wrtho; a Duw a aeth i fyny oddi wrth Abraham.
23 Ac Abraham a gymerodd Ismael ei fab, a’r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef, a’r rhai oll a brynasai efe â’i arian, pob gwryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dienwaediad hwynt o fewn corff y dydd hwnnw, fel y llefarasai Duw wrtho ef. 24 Ac Abraham oedd fab onid un mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef. 25 Ac Ismael ei fab ef yn fab tair blwydd ar ddeg, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef. 26 O fewn corff y dydd hwnnw yr enwaedwyd Abraham, ac Ismael ei fab. 27 A holl ddynion ei dŷ ef, y rhai a anesid yn tŷ, ac a brynesid ag arian gan neb dieithr, a enwaedwyd gydag ef.
13 Parhaed brawdgarwch. 2 Nac anghofiwch letygarwch: canys wrth hynny y lletyodd rhai angylion yn ddiarwybod. 3 Cofiwch y rhai sydd yn rhwym, fel petech yn rhwym gyda hwynt; y rhai cystuddiol, megis yn bod eich hunain hefyd yn y corff. 4 Anrhydeddus yw priodas ym mhawb, a’r gwely dihalogedig: eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw. 5 Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar; gan fod yn fodlon i’r hyn sydd gennych: canys efe a ddywedodd, Ni’th roddaf di i fyny, ac ni’th lwyr adawaf chwaith: 6 Fel y gallom ddywedyd yn hy, Yr Arglwydd sydd gymorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi. 7 Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. 8 Iesu Grist, ddoe a heddiw yr un, ac yn dragywydd. 9 Na’ch arweinier oddi amgylch ag athrawiaethau amryw a dieithr: canys da yw bod y galon wedi ei chryfhau â gras, nid â bwydydd, yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt fudd. 10 Y mae gennym ni allor, o’r hon nid oes awdurdod i’r rhai sydd yn gwasanaethu’r tabernacl i fwyta. 11 Canys cyrff yr anifeiliaid hynny, y rhai y dygir eu gwaed gan yr archoffeiriad i’r cysegr dros bechod, a losgir y tu allan i’r gwersyll. 12 Oherwydd paham Iesu hefyd, fel y sancteiddiai’r bobl trwy ei waed ei hun, a ddioddefodd y tu allan i’r porth. 13 Am hynny awn ato ef o’r tu allan i’r gwersyll, gan ddwyn ei waradwydd ef. 14 Canys nid oes i ni yma ddinas barhaus, eithr un i ddyfod yr ŷm ni yn ei disgwyl. 15 Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i’w enw ef. 16 Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu, nac anghofiwch: canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.