Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
41 Deued i mi dy drugaredd, Arglwydd, a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air. 42 Yna yr atebaf i’m cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais. 43 Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais. 44 A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd. 45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf. 46 Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf. 47 Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais. 48 A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.SAIN
16 Sarai hefyd, gwraig Abram, ni phlantasai iddo; ac yr ydoedd iddi forwyn o Eifftes, a’i henw Agar. 2 A Sarai a ddywedodd wrth Abram, Wele yn awr, yr Arglwydd a luddiodd i mi blanta: dos, atolwg, at fy llawforwyn; fe allai y ceir i mi blant ohoni hi: ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai. 3 A Sarai, gwraig Abram, a gymerodd ei morwyn Agar yr Eifftes, wedi trigo o Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan, a hi a’i rhoddes i Abram ei gŵr yn wraig iddo.
4 Ac efe a aeth i mewn at Agar, a hi a feichiogodd: a phan welodd hithau feichiogi ohoni, yr oedd ei meistres yn wael yn ei golwg hi. 5 Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, Bydded fy ngham i arnat ti: mi a roddais fy morwyn i’th fynwes, a hithau a welodd feichiogi ohoni, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr Arglwydd rhyngof fi a thi. 6 Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, Wele dy forwyn yn dy law di: gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai a’i cystuddiodd hi, a hithau a ffodd rhagddi hi.
7 Ac angel yr Arglwydd a’i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr, yn yr anialwch, wrth y ffynnon yn ffordd Sur: 8 Ac efe a ddywedodd, Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost? ac i ba le yr ei di? A hi a ddywedodd, Ffoi yr ydwyf fi rhag wyneb fy meistres Sarai. 9 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrthi, Dychwel at dy feistres, ac ymddarostwng tan ei dwylo hi. 10 Angel yr Arglwydd a ddywedodd hefyd wrthi hi, Gan amlhau yr amlhaf dy had di, fel na rifir ef o luosowgrwydd. 11 Dywedodd angel yr Arglwydd hefyd wrthi hi, Wele di yn feichiog, a thi a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr Arglwydd a glybu dy gystudd di. 12 Ac efe a fydd ddyn gwyllt, a’i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn yntau; ac efe a drig gerbron ei holl frodyr. 13 A hi a alwodd enw yr Arglwydd, yr hwn oedd yn llefaru wrthi, Ti, O Dduw, wyt yn edrych arnaf fi: canys dywedodd, Oni edrychais yma hefyd ar ôl yr hwn sydd yn edrych arnaf? 14 Am hynny y galwyd y ffynnon Beer‐lahai‐roi: wele, rhwng Cades a Bered y mae hi.
15 Ac Agar a ymddûg fab i Abram: ac Abram a alwodd enw ei fab a ymddygasai Agar, Ismael.
14 Na ieuer chwi yn anghymharus gyda’r rhai di-gred; canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder? a pha gymundeb rhwng goleuni a thywyllwch? 15 A pha gysondeb sydd rhwng Crist a Belial? neu pa ran sydd i gredadun gydag anghredadun? 16 A pha gydfod sydd rhwng teml Duw ac eilunod? canys teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysg, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi. 17 Oherwydd paham deuwch allan o’u canol hwy, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd, ac na chyffyrddwch â dim aflan; ac mi a’ch derbyniaf chwi, 18 Ac a fyddaf yn Dad i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog.
7 Am hynny gan fod gennym yr addewidion hyn, anwylyd, ymlanhawn oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw. 2 Derbyniwch ni. Ni wnaethom gam i neb; ni lygrasom neb; nid ysbeiliasom neb.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.