Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
33 Ymlawenhewch, y rhai cyfiawn, yn yr Arglwydd: i’r rhai uniawn gweddus yw mawl. 2 Molwch yr Arglwydd â’r delyn: cenwch iddo â’r nabl, ac â’r dectant. 3 Cenwch iddo ganiad newydd: cenwch yn gerddgar, yn soniarus. 4 Canys uniawn yw gair yr Arglwydd; a’i holl weithredoedd a wnaed mewn ffyddlondeb. 5 Efe a gâr gyfiawnder a barn: o drugaredd yr Arglwydd y mae y ddaear yn gyflawn. 6 Trwy air yr Arglwydd y gwnaethpwyd y nefoedd; a’u holl luoedd hwy trwy ysbryd ei enau ef. 7 Casglu y mae efe ddyfroedd y môr ynghyd megis pentwr: y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn trysorau. 8 Ofned yr holl ddaear yr Arglwydd: holl drigolion y byd arswydant ef. 9 Canys efe a ddywedodd, ac felly y bu: efe a orchmynnodd, a hynny a safodd. 10 Yr Arglwydd sydd yn diddymu cyngor y cenhedloedd: y mae efe yn diddymu amcanion pobloedd. 11 Cyngor yr Arglwydd a saif yn dragywydd; meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth. 12 Gwyn ei byd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun.
17 A brenin Sodom a aeth allan i’w gyfarfod ef, (wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer, a’r brenhinoedd oedd gydag ef,) i ddyffryn Safe, hwn yw dyffryn y brenin. 18 Melchisedec hefyd, brenin Salem, a ddug allan fara a gwin; ac efe oedd offeiriad i Dduw goruchaf: 19 Ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Abram gan Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear: 20 A bendigedig fyddo Duw goruchaf, yr hwn a roddes dy elynion yn dy law. Ac efe a roddes iddo ddegwm o’r cwbl. 21 A dywedodd brenin Sodom wrth Abram, Dod i mi y dynion, a chymer i ti y cyfoeth. 22 Ac Abram a ddywedodd wrth frenin Sodom, Dyrchefais fy llaw at yr Arglwydd Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear, 23 Na chymerwn o edau hyd garrai esgid, nac o’r hyn oll sydd eiddot ti; rhag dywedyd ohonot, Myfi a gyfoethogais Abram: 24 Ond yn unig yr hyn a fwytaodd y llanciau, a rhan y gwŷr a aethant gyda mi, Aner, Escol, a Mamre: cymerant hwy eu rhan.
28 Ac wedi iddynt ddianc, yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys. 2 A’r barbariaid a ddangosasant i ni fwyneidd‐dra nid bychan: oblegid hwy a gyneuasant dân, ac a’n derbyniasant ni oll oherwydd y gawod gynrhychiol, ac oherwydd yr oerfel. 3 Ac wedi i Paul gynnull ynghyd lawer o friwydd, a’u dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan o’r gwres, ac a lynodd wrth ei law ef. 4 A phan welodd y barbariaid y bwystfil yng nghrog wrth ei law ef, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Yn sicr llawruddiog yw’r dyn hwn, yr hwn, er ei ddianc o’r môr, ni adawodd dialedd iddo fyw. 5 Ac efe a ysgydwodd y bwystfil i’r tân, ac ni oddefodd ddim niwed. 6 Ond yr oeddynt hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo, neu syrthio yn ddisymwth yn farw. Eithr wedi iddynt hir ddisgwyl, a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai duw oedd efe. 7 Ynghylch y man hwnnw yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys, a’i enw Publius, yr hwn a’n derbyniodd ni, ac a’n lletyodd dridiau yn garedig. 8 A digwyddodd, fod tad Publius yn gorwedd yn glaf o gryd a gwaedlif: at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a gweddïo, efe a ddododd ei ddwylo arno ef, ac a’i hiachaodd. 9 Felly wedi gwneuthur hyn, y lleill hefyd y rhai oedd â heintiau arnynt yn yr ynys, a ddaethant ato, ac a iachawyd: 10 Y rhai hefyd a’n parchasant ni â llawer o urddas; a phan oeddem yn ymadael, hwy a’n llwythasant ni â phethau angenrheidiol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.