Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd.
8 Arglwydd ein Ior ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd. 2 O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd. 3 Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist; 4 Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef? 5 Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch. 6 Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef: 7 Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd; 8 Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd. 9 Arglwydd ein Ior, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!
12 A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau? a ddangosaist ti i’r wawrddydd ei lle, 13 I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear, fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi? 14 Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad. 15 Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig. 16 A ddaethost ti i eigion y môr? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder? 17 A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cysgod angau? 18 A ystyriaist ti led y ddaear? mynega, os adwaenost ti hi i gyd. 19 Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha le y mae lle y tywyllwch, 20 Fel y cymerit ef hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau i’w dŷ ef? 21 A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr?
12 Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn: ond nid oes arnaf gywilydd: canys mi a wn i bwy y credais; ac y mae yn ddiamau gennyf ei fod ef yn abl i gadw’r hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnnw. 13 Bydded gennyt ffurf yr ymadroddion iachus, y rhai a glywaist gennyf fi, yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu. 14 Y peth da a rodded i’w gadw atat, cadw trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.