Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
2 Ac wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr un lle. 2 Ac yn ddisymwth y daeth sŵn o’r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd. 3 Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bob un ohonynt. 4 A hwy oll a lanwyd â’r Ysbryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd. 5 Ac yr oedd yn trigo yn Jerwsalem. Iddewon, gwŷr bucheddol, o bob cenedl dan y nef. 6 Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, oherwydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun. 7 Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galileaid yw’r rhai hyn oll sydd yn llefaru? 8 A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon y’n ganed ni? 9 Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Jwdea, a Chapadocia, Pontus, ac Asia, 10 Phrygia, a Phamffylia, yr Aifft, a pharthau Libya, yr hon sydd gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iddewon, a phroselytiaid, 11 Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw. 12 A synasant oll, ac a ameuasant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fod? 13 Ac eraill, gan watwar, a ddywedasant, Llawn o win melys ydynt.
14 Eithr Pedr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â’m geiriau: 15 Canys nid yw’r rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegid y drydedd awr o’r dydd yw hi. 16 Eithr hyn yw’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd Joel; 17 A bydd yn y dyddiau diwethaf, medd Duw, y tywalltaf o’m Hysbryd ar bob cnawd: a’ch meibion chwi a’ch merched a broffwydant, a’ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau, a’ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion: 18 Ac ar fy ngweision ac ar fy llawforynion y tywalltaf o’m Hysbryd yn y dyddiau hynny; a hwy a broffwydant: 19 A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod; gwaed, a thân, a tharth mwg. 20 Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod. 21 A bydd, pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig.
24 A Moses a aeth allan ac a draethodd eiriau yr Arglwydd wrth y bobl, ac a gasglodd y dengwr a thrigain o henuriaid y bobl, ac a’u gosododd hwynt o amgylch y babell. 25 Yna y disgynnodd yr Arglwydd mewn cwmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a gymerodd o’r ysbryd oedd arno, ac a’i rhoddes i’r deg hynafgwr a thrigain. A thra y gorffwysai’r ysbryd arnynt, y proffwydent, ac ychwaneg ni wnaent. 26 A dau o’r gwŷr a drigasant yn y gwersyll, (enw un ydoedd Eldad, enw y llall Medad:) a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwy, am eu bod hwy o’r rhai a ysgrifenasid; ond nid aethant i’r babell, eto proffwydasant yn y gwersyll. 27 A rhedodd llanc, a mynegodd i Moses, ac a ddywedodd, Y mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll. 28 A Josua mab Nun, gweinidog Moses o’i ieuenctid, a atebodd ac a ddywedodd Moses, fy arglwydd, gwahardd iddynt. 29 A dywedodd Moses wrtho, Ai cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi? O na byddai holl bobl yr Arglwydd yn broffwydi, a rhoddi o’r Arglwydd ei ysbryd arnynt! 30 A Moses a aeth i’r gwersyll, efe a henuriaid Israel.
24 Mor lluosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth. 25 Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion. 26 Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo. 27 Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd. 28 A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni. 29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch. 30 Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear. 31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd. 32 Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant. 33 Canaf i’r Arglwydd tra fyddwyf fyw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 34 Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd.
35 Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
3 Am hynny yr wyf yn hysbysu i chwi, nad oes neb yn llefaru trwy Ysbryd Duw, yn galw yr Iesu yn ysgymunbeth: ac ni all neb ddywedyd yr Arglwydd Iesu, eithr trwy’r Ysbryd Glân. 4 Ac y mae amryw ddoniau, eithr yr un Ysbryd. 5 Ac y mae amryw weinidogaethau, eithr yr un Arglwydd. 6 Ac y mae amryw weithrediadau, ond yr un yw Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb: 7 Eithr eglurhad yr Ysbryd a roddir i bob un er llesâd. 8 Canys i un, trwy’r Ysbryd, y rhoddir ymadrodd doethineb; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, trwy’r un Ysbryd; 9 Ac i arall ffydd, trwy’r un Ysbryd; ac i arall ddawn i iacháu, trwy’r un Ysbryd; 10 Ac i arall, wneuthur gwyrthiau; ac i arall, broffwydoliaeth; ac i arall, wahaniaeth ysbrydoedd; ac i arall, amryw dafodau; ac i arall, gyfieithiad tafodau. 11 A’r holl bethau hyn y mae’r un a’r unrhyw Ysbryd yn eu gweithredu, gan rannu i bob un o’r neilltu megis y mae yn ewyllysio. 12 Canys fel y mae’r corff yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau’r un corff, cyd byddont lawer, ydynt un corff; felly y mae Crist hefyd. 13 Oherwydd trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corff, pa un bynnag ai Iddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; ac ni a ddiodwyd oll i un Ysbryd.
2 Ac wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr un lle. 2 Ac yn ddisymwth y daeth sŵn o’r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd. 3 Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bob un ohonynt. 4 A hwy oll a lanwyd â’r Ysbryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd. 5 Ac yr oedd yn trigo yn Jerwsalem. Iddewon, gwŷr bucheddol, o bob cenedl dan y nef. 6 Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, oherwydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun. 7 Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galileaid yw’r rhai hyn oll sydd yn llefaru? 8 A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon y’n ganed ni? 9 Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Jwdea, a Chapadocia, Pontus, ac Asia, 10 Phrygia, a Phamffylia, yr Aifft, a pharthau Libya, yr hon sydd gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iddewon, a phroselytiaid, 11 Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw. 12 A synasant oll, ac a ameuasant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fod? 13 Ac eraill, gan watwar, a ddywedasant, Llawn o win melys ydynt.
14 Eithr Pedr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â’m geiriau: 15 Canys nid yw’r rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegid y drydedd awr o’r dydd yw hi. 16 Eithr hyn yw’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd Joel; 17 A bydd yn y dyddiau diwethaf, medd Duw, y tywalltaf o’m Hysbryd ar bob cnawd: a’ch meibion chwi a’ch merched a broffwydant, a’ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau, a’ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion: 18 Ac ar fy ngweision ac ar fy llawforynion y tywalltaf o’m Hysbryd yn y dyddiau hynny; a hwy a broffwydant: 19 A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod; gwaed, a thân, a tharth mwg. 20 Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod. 21 A bydd, pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig.
19 Yna, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o’r wythnos, a’r drysau yn gaead lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghyd rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi. 20 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i ystlys. Yna y disgyblion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd. 21 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Tangnefedd i chwi: megis y danfonodd y Tad fi, yr wyf finnau yn eich danfon chwi. 22 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Ysbryd Glân. 23 Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt; a’r eiddo pwy bynnag a atalioch, hwy a ataliwyd.
37 Ac ar y dydd diwethaf, y dydd mawr o’r ŵyl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Od oes ar neb syched, deued ataf fi, ac yfed. 38 Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megis y dywedodd yr ysgrythur, afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o’i groth ef. 39 (A hyn a ddywedodd efe am yr Ysbryd, yr hwn a gâi’r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi, oherwydd na ogoneddasid yr Iesu eto.)
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.