Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 37:1-17

Salm Dafydd.

37 Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd. Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau. Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau. Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon. Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben. Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd. Distawa yn yr Arglwydd, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion. Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg. Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr Arglwydd, hwynt‐hwy a etifeddant y tir. 10 Canys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono. 11 Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd. 12 Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno. 13 Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod. 14 Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd. 15 Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a’u bwâu a ddryllir. 16 Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer. 17 Canys breichiau yr annuwiolion a dorrir: ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn.

Ruth 2:1-16

Ac i ŵr Naomi yr ydoedd câr, o ŵr cadarn nerthol, o dylwyth Elimelech, a’i enw Boas. A Ruth y Foabes a ddywedodd wrth Naomi, Gad i mi fyned yn awr i’r maes, a lloffa tywysennau ar ôl yr hwn y caffwyf ffafr yn ei olwg. Hithau a ddywedodd wrthi, Dos, fy merch. A hi a aeth, ac a ddaeth, ac a loffodd yn y maes ar ôl y medelwyr: a digwyddodd wrth ddamwain fod y rhan honno o’r maes yn eiddo Boas, yr hwn oedd o dylwyth Elimelech.

Ac wele, Boas a ddaeth o Bethlehem, ac a ddywedodd wrth y medelwyr, Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi. Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Yr Arglwydd a’th fendithio. Yna y dywedodd Boas wrth ei was yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl y medelwyr, Pwy biau y llances hon? A’r gwas yr hwn oedd yn sefyll wrth y medelwyr a atebodd, ac a ddywedodd, Y llances o Moab ydyw hi, yr hon a ddychwelodd gyda Naomi o wlad Moab: A hi a ddywedodd, Atolwg yr ydwyf gael lloffa, a chasglu ymysg yr ysgubau ar ôl y medelwyr: a hi a ddaeth, ac a arhosodd er y bore hyd yr awr hon, oddieithr aros ohoni hi ychydig yn tŷ. Yna y dywedodd Boas wrth Ruth, Oni chlywi di, fy merch? Na ddos i loffa i faes arall, ac na cherdda oddi yma; eithr aros yma gyda’m llancesau i. Bydded dy lygaid ar y maes y byddont hwy yn ei fedi; a dos ar eu hôl hwynt: oni orchmynnais i’r llanciau, na chyffyrddent â thi? A phan sychedych, dos at y llestri, ac yf o’r hwn a ollyngodd y llanciau. 10 Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd i lawr, ac a ddywedodd wrtho ef, Paham y cefais ffafr yn dy olwg di, fel y cymerit gydnabod arnaf, a minnau yn alltudes? 11 A Boas a atebodd, ac a ddywedodd wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i’th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr; ac fel y gadewaist dy dad a’th fam, a gwlad dy enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o’r blaen. 12 Yr Arglwydd a dalo am dy waith; a bydded dy obrwy yn berffaith gan Arglwydd Dduw Israel, yr hwn y daethost i obeithio dan ei adenydd. 13 Yna hi a ddywedodd, Caffwyf ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd; gan i ti fy nghysuro i, a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaethferch, er nad ydwyf fel un o’th lawforynion di. 14 A dywedodd Boas wrthi hi, Yn amser bwyd tyred yma, a bwyta o’r bara, a gwlych dy damaid yn y finegr. A hi a eisteddodd wrth ystlys y medelwyr: ac efe a estynnodd iddi gras ŷd; a hi a fwytaodd, ac a ddigonwyd, ac a adawodd weddill. 15 A hi a gyfododd i loffa: a gorchmynnodd Boas i’w weision, gan ddywedyd, Lloffed hefyd ymysg yr ysgubau, ac na feiwch arni: 16 A chan ollwng gollyngwch hefyd iddi beth o’r ysgubau; a gadewch hwynt, fel y lloffo hi hwynt; ac na cheryddwch hi.

Iago 5:1-6

Iddo yn awr, chwi gyfoethogion, wylwch ac udwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch. Eich cyfoeth a bydrodd, a’ch gwisgoedd a fwytawyd gan bryfed. Eich aur a’ch arian a rydodd; a’u rhwd hwynt a fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, ac a fwyty eich cnawd chwi fel tân. Chwi a gasglasoch drysor yn y dyddiau diwethaf. Wele, y mae cyflog y gweithwyr, a fedasant eich meysydd chwi, yr hwn a gamataliwyd gennych, yn llefain: a llefain y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd. Moethus fuoch ar y ddaear, a thrythyll; meithrin eich calonnau a wnaethoch, megis mewn dydd lladdedigaeth. Condemniasoch a lladdasoch y cyfiawn: ac yntau heb sefyll i’ch erbyn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.