Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
113 Molwch yr Arglwydd. Gweision yr Arglwydd, molwch, ie, molwch enw yr Arglwydd. 2 Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. 3 O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr Arglwydd. 4 Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd. 5 Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel, 6 Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear? 7 Efe sydd yn codi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen, 8 I’w osod gyda phendefigion, ie, gyda phendefigion ei bobl. 9 Yr hwn a wna i’r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr Arglwydd.
30 Pan welodd Rahel na phlantasai hithau i Jacob, yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer, ac a ddywedodd wrth Jacob, Moes feibion i mi; ac onid e mi a fyddaf farw. 2 A chyneuodd llid Jacob wrth Rahel; ac efe a ddywedodd, Ai myfi sydd yn lle Duw, yr hwn a ataliodd ffrwyth y groth oddi wrthyt ti? 3 A dywedodd hithau, Wele fy llawforwyn Bilha, dos i mewn ati hi; a hi a blanta ar fy ngliniau i, fel y caffer plant i minnau hefyd ohoni hi. 4 A hi a roddes ei llawforwyn Bilha iddo ef yn wraig, a Jacob a aeth i mewn ati. 5 A Bilha a feichiogodd, ac a ymddûg fab i Jacob. 6 A Rahel a ddywedodd, Duw a’m barnodd i, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fab: am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan. 7 Hefyd Bilha, llawforwyn Rahel, a feichiogodd eilwaith, ac a ymddûg yr ail fab i Jacob. 8 A Rahel a ddywedodd, Ymdrechais ymdrechiadau gorchestol â’m chwaer, a gorchfygais: a hi a alwodd ei enw ef Nafftali. 9 Pan welodd Lea beidio ohoni â phlanta, hi a gymerth ei llawforwyn Silpa, ac a’i rhoddes hi yn wraig i Jacob. 10 A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg fab i Jacob. 11 A Lea a ddywedodd, Y mae tyrfa yn dyfod: a hi a alwodd ei enw ef Gad. 12 A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg yr ail fab i Jacob. 13 A Lea a ddywedodd, Yr ydwyf yn ddedwydd; oblegid merched a’m galwant yn ddedwydd: a hi a alwodd ei enw ef Aser.
14 Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhaeaf gwenith, ac a gafodd fandragorau yn y maes, ac a’u dug hwynt at Lea ei fam: yna Rahel a ddywedodd wrth Lea, Dyro, atolwg, i mi o fandragorau dy fab. 15 Hithau a ddywedodd wrthi, Ai bychan yw dwyn ohonot fy ngŵr? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mab? A Rahel a ddywedodd, Cysged gan hynny gyda thi heno am fandragorau dy fab. 16 A Jacob a ddaeth o’r maes yn yr hwyr; a Lea a aeth allan i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Ataf fi y deui: oblegid gan brynu y’th brynais am fandragorau fy mab. Ac efe a gysgodd gyda hi y nos honno. 17 A Duw a wrandawodd ar Lea a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pumed mab i Jacob. 18 A Lea a ddywedodd, Rhoddodd Duw fy ngwobr i mi, oherwydd rhoddi ohonof fi fy llawforwyn i’m gŵr: a hi a alwodd ei enw ef Issachar. 19 Lea hefyd a feichiogodd eto, ac a ymddûg y chweched mab i Jacob. 20 A Lea a ddywedodd, Cynysgaeddodd Duw fyfi â chynhysgaeth dda; fy ngŵr a drig weithian gyda mi, oblegid chwech o feibion a ymddygais iddo ef: a hi a alwodd ei enw ef Sabulon. 21 Ac wedi hynny hi a esgorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hi Dina.
22 A Duw a gofiodd Rahel, a Duw a wrandawodd arni, ac a agorodd ei chroth hi. 23 A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Duw a dynnodd fy ngwarthrudd ymaith. 24 A hi a alwodd ei enw ef Joseff, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall.
18 Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i’r gogoniant a ddatguddir i ni. 19 Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw. 20 Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o’i fodd, eithr oblegid yr hwn a’i darostyngodd: 21 Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i ryddid gogoniant plant Duw. 22 Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn. 23 Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff. 24 Canys trwy obaith y’n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio? 25 Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano. 26 A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy. 27 A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint. 28 Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw; sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef. 29 Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf‐anedig ymhlith brodyr lawer. 30 A’r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a’r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a’r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.