Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
7 Aphan eisteddodd y brenin yn ei dŷ, a rhoddi o’r Arglwydd lonydd iddo ef rhag ei holl elynion oddi amgylch: 2 Yna y dywedodd y brenin wrth Nathan y proffwyd, Wele yn awr fi yn preswylio mewn tŷ o gedrwydd, ac arch Duw yn aros o fewn y cortynnau. 3 A Nathan a ddywedodd wrth y brenin, Dos, gwna yr hyn oll sydd yn dy galon: canys yr Arglwydd sydd gyda thi.
4 A bu, y noson honno, i air yr Arglwydd ddyfod at Nathan, gan ddywedyd, 5 Dos, a dywed wrth fy ngwas Dafydd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ai tydi a adeiledi i mi dŷ, lle y cyfanheddwyf fi? 6 Canys nid arhosais mewn tŷ, er y dydd yr arweiniais blant Israel o’r Aifft, hyd y dydd hwn, eithr bûm yn rhodio mewn pabell ac mewn tabernacl. 7 Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl feibion Israel, a yngenais i air wrth un o lwythau Israel, i’r rhai y gorchmynnais borthi fy mhobl Israel, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd? 8 Ac yn awr fel hyn y dywedi wrth fy ngwas Dafydd; Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn flaenor ar fy mhobl, ar Israel. 9 A bûm gyda thi ym mha le bynnag y rhodiaist; torrais ymaith hefyd dy holl elynion di o’th flaen, a gwneuthum enw mawr i ti, megis enw y rhai mwyaf ar y ddaear. 10 Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le; a phlannaf ef, fel y trigo efe yn ei le ei hun, ac na symudo mwyach: a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef, megis cynt; 11 Sef er y dydd yr ordeiniais i farnwyr ar fy mhobl Israel, ac y rhoddais lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynion. A’r Arglwydd sydd yn mynegi i ti, y gwna efe dŷ i ti.
16 A’th dŷ di a sicrheir, a’th frenhiniaeth, yn dragywydd o’th flaen di: dy orseddfainc a sicrheir byth.
46 A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau’r Arglwydd, 47 A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr. 48 Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a’m geilw yn wynfydedig. 49 Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef. 50 A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a’i hofnant ef. 51 Efe a wnaeth gadernid â’i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon. 52 Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’u heisteddfâu, ac a ddyrchafodd y rhai isel radd. 53 Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion. 54 Efe a gynorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd; 55 Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a’i had, yn dragywydd.
Maschil Ethan yr Esrahiad.
89 Trugareddau yr Arglwydd a ddatganaf byth: â’m genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth. 2 Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd. 3 Gwneuthum amod â’m hetholedig, tyngais i’m gwas Dafydd. 4 Yn dragywydd y sicrhaf dy had di; ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela.
19 Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â’th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn: dyrchefais un etholedig o’r bobl. 20 Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â’m holew sanctaidd: 21 Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a’m braich a’i nertha ef. 22 Ni orthryma y gelyn ef; a’r mab anwir nis cystuddia ef. 23 Ac mi a goethaf ei elynion o’i flaen; a’i gaseion a drawaf. 24 Fy ngwirionedd hefyd a’m trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef. 25 A gosodaf ei law yn y môr, a’i ddeheulaw yn yr afonydd. 26 Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy Nuw, a Chraig fy iachawdwriaeth.
25 I’r hwn a ddichon eich cadarnhau yn ôl fy efengyl i, a phregethiad Iesu Grist, (yn ôl datguddiad y dirgelwch, yr hwn ni soniwyd amdano er dechreuad y byd; 26 Ac yr awron a eglurwyd, a thrwy ysgrythurau’r proffwydi, yn ôl gorchymyn y tragwyddol Dduw, a gyhoeddwyd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ufudd‐dod ffydd:) 27 I Dduw yr unig ddoeth, y byddo gogoniant trwy Iesu Grist yn dragywydd. Amen.
At y Rhufeiniaid yr ysgrifennwyd o Gorinth, gyda Phebe, gweinidoges yr eglwys yn Cenchrea.
26 Ac yn y chweched mis yr anfonwyd yr angel Gabriel oddi wrth Dduw, i ddinas yng Ngalilea a’i henw Nasareth, 27 At forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr a’i enw Joseff, o dŷ Dafydd; ac enw y forwyn oedd Mair. 28 A’r angel a ddaeth i mewn ati, ac a ddywedodd, Henffych well, yr hon a gefaist ras; yr Arglwydd sydd gyda thi: bendigaid wyt ymhlith gwragedd. 29 A hithau, pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef; a meddylio a wnaeth pa fath gyfarch oedd hwn. 30 A dywedodd yr angel wrthi, Nac ofna, Mair: canys ti a gefaist ffafr gyda Duw. 31 Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef IESU. 32 Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf: ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd. 33 Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd. 34 A Mair a ddywedodd wrth yr angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i ŵr? 35 A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Ysbryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a’th gysgoda di: am hynny hefyd y peth sanctaidd a aner ohonot ti, a elwir yn Fab Duw. 36 Ac wele, Elisabeth dy gares, y mae hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint: a hwn yw’r chweched mis iddi hi, yr hon a elwid yn amhlantadwy. 37 Canys gyda Duw ni bydd dim yn amhosibl. 38 A dywedodd Mair, Wele wasanaethyddes yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di. A’r angel a aeth ymaith oddi wrthi hi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.