Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:57-64

57 O Arglwydd, fy rhan ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau. 58 Ymbiliais â’th wyneb â’m holl galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air. 59 Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di. 60 Brysiais, ac nid oedais gadw dy orchmynion. 61 Minteioedd yr annuwiolion a’m hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di. 62 Hanner nos y cyfodaf i’th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder. 63 Cyfaill ydwyf fi i’r rhai oll a’th ofnant, ac i’r rhai a gadwant dy orchmynion. 64 Llawn yw y ddaear o’th drugaredd, O Arglwydd: dysg i mi dy ddeddfau.

TETH

Diarhebion 3:27-35

27 Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur. 28 Na ddywed wrth dy gymydog, Cerdda ymaith, a thyred amser arall, ac yfory mi a roddaf; a chennyt beth yn awr. 29 Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.

30 Nac ymryson â neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.

31 Na chenfigenna wrth ŵr traws, ac na ddewis yr un o’i ffyrdd ef. 32 Canys ffiaidd gan yr Arglwydd y cyndyn: ond gyda’r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef.

33 Melltith yr Arglwydd sydd yn nhŷ yr annuwiol: ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn.

34 Diau efe a watwar y gwatwarus: ond ei ras a rydd efe i’r gostyngedig. 35 Y doethion a etifeddant anrhydedd, a gwarth fydd dyrchafiad ffyliaid.

Luc 18:18-30

18 A rhyw lywodraethwr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragwyddol? 19 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y’m gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond un, sef Duw. 20 Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Anrhydedda dy dad a’th fam. 21 Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o’m hieuenctid. 22 A’r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae un peth eto yn ôl i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi. 23 Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn. 24 A’r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw! 25 Canys haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. 26 A’r rhai a glywsent a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig? 27 Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd amhosibl gyda dynion, sydd bosibl gyda Duw. 28 A dywedodd Pedr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di. 29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw, 30 A’r ni dderbyn lawer cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.