Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
57 O Arglwydd, fy rhan ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau. 58 Ymbiliais â’th wyneb â’m holl galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air. 59 Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di. 60 Brysiais, ac nid oedais gadw dy orchmynion. 61 Minteioedd yr annuwiolion a’m hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di. 62 Hanner nos y cyfodaf i’th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder. 63 Cyfaill ydwyf fi i’r rhai oll a’th ofnant, ac i’r rhai a gadwant dy orchmynion. 64 Llawn yw y ddaear o’th drugaredd, O Arglwydd: dysg i mi dy ddeddfau.TETH
11 Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig. 12 Ceryddwr doeth i’r glust a wrandawo, sydd fel anwyldlws euraid, a gwisg o aur rhagorol. 13 Megis oerder eira yn amser cynhaeaf, yw cennad ffyddlon i’r rhai a’i gyrrant: canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid. 14 Y neb a ymffrostio o achos gau rodd, sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law. 15 Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn. 16 Pan gaffech fêl, bwyta a’th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef. 17 Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog: rhag iddo flino arnat, a’th gasáu. 18 Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth lem. 19 Hyder ar ffalswr yn nydd cyfyngder, sydd megis dant wedi ei dorri, a throed wedi tyrfu. 20 Fel yr hwn a ddygo ymaith wisg yn amser oerfel, ac fel finegr ar nitr, felly y mae yr hwn sydd yn canu caniadau i galon drist. 21 Os dy elyn a newyna, portha ef â bara; ac os sycheda, dod iddo ddiod i’w hyfed: 22 Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef; a’r Arglwydd a dâl i ti.
9 Bydded cariad yn ddiragrith. Casewch y drwg, a glynwch wrth y da. 10 Mewn cariad brawdol byddwch garedig i’ch gilydd; yn rhoddi parch, yn blaenori eich gilydd: 11 Nid yn ddiog mewn diwydrwydd; yn wresog yn yr ysbryd; yn gwasanaethu yr Arglwydd: 12 Yn llawen mewn gobaith; yn ddioddefgar mewn cystudd; yn dyfalbarhau mewn gweddi: 13 Yn cyfrannu i gyfreidiau’r saint; ac yn dilyn lletygarwch. 14 Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid: bendithiwch, ac na felltithiwch. 15 Byddwch lawen gyda’r rhai sydd lawen, ac wylwch gyda’r rhai sydd yn wylo. 16 Byddwch yn unfryd â’ch gilydd: heb roi eich meddwl ar uchel bethau; eithr yn gydostyngedig â’r rhai iselradd. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain. 17 Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yng ngolwg pob dyn. 18 Os yw bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlon â phob dyn. 19 Nac ymddielwch, rai annwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. 20 Am hynny, os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo ddiod: canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef. 21 Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.