Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
19 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth holl gynulleidfa meibion Israel, a dywed wrthynt, Byddwch sanctaidd: canys sanctaidd ydwyf fi, yr Arglwydd eich Duw chwi.
9 A phan gynaeafoch gynhaeaf eich tir, na feda yn llwyr gonglau dy faes, ac na chynnull loffion dy gynhaeaf. 10 Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan; gad hwynt i’r tlawd ac i’r dieithr: yr Arglwydd eich Duw chwi ydwyf fi.
11 Na ladratewch, ac na ddywedwch gelwydd, ac na thwyllwch bob un ei gymydog.
12 Ac na thyngwch i’m henw i yn anudon, ac na haloga enw dy Dduw; yr Arglwydd ydwyf fi.
13 Na chamatal oddi wrth dy gymydog, ac nac ysbeilia ef: na thriged cyflog y gweithiwr gyda thi hyd y bore.
14 Na felltiga’r byddar, ac na ddod dramgwydd o flaen y dall; ond ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.
15 Na wnewch gam mewn barn; na dderbyn wyneb y tlawd, ac na pharcha wyneb y cadarn: barna dy gymydog mewn cyfiawnder.
16 Ac na rodia yn athrodwr ymysg dy bobl; na saf yn erbyn gwaed dy gymydog: yr Arglwydd ydwyf fi.
17 Na chasâ dy frawd yn dy galon: gan geryddu cerydda dy gymydog, ac na ddioddef bechod ynddo.
18 Na ddiala, ac na chadw lid i feibion dy bobl; ond câr dy gymydog megis ti dy hun: yr Arglwydd ydwyf fi.
33 Dysg i mi, O Arglwydd, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd. 34 Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon. 35 Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys. 36 Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd‐dra. 37 Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd. 38 Sicrha dy air i’th was, yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di. 39 Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda. 40 Wele, awyddus ydwyf i’th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.FAU
10 Yn ôl y gras Duw a roddwyd i mi, megis pensaer celfydd, myfi a osodais y sylfaen, ac y mae arall yn goruwch adeiladu. Ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch adeiladu. 11 Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod, heblaw’r un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist.
16 Oni wyddoch chwi mai teml Dduw ydych, a bod Ysbryd Duw yn trigo ynoch? 17 Os llygra neb deml Dduw, Duw a lygra hwnnw: canys sanctaidd yw teml Duw, yr hon ydych chwi. 18 Na thwylled neb ei hunan. Od oes neb yn eich mysg yn tybied ei fod ei hun yn ddoeth yn y byd hwn, bydded ffôl, fel y byddo doeth. 19 Canys doethineb y byd hwn sydd ffolineb gyda Duw: oherwydd ysgrifenedig yw, Y mae efe yn dal y doethion yn eu cyfrwystra. 20 A thrachefn, Y mae yr Arglwydd yn gwybod meddyliau y doethion, mai ofer ydynt. 21 Am hynny na orfoledded neb mewn dynion: canys pob peth sydd eiddoch chwi: 22 Pa un bynnag ai Paul, ai Apolos, ai Ceffas, ai’r byd, ai bywyd, ai angau, ai pethau presennol, ai pethau i ddyfod; y mae pob peth yn eiddoch chwi; 23 A chwithau yn eiddo Crist; a Crist yn eiddo Duw.
38 Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant: 39 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a’th drawo ar dy rudd ddeau, tro’r llall iddo hefyd. 40 Ac i’r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gad iddo dy gochl hefyd. 41 A phwy bynnag a’th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy. 42 Dyro i’r hwn a ofynno gennyt; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt.
43 Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn. 44 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiant; 45 Fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn. 46 Oblegid os cerwch y sawl a’ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna’r publicanod hefyd yr un peth? 47 Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw’r publicanod hefyd yn gwneuthur felly? 48 Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.