Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
33 Dysg i mi, O Arglwydd, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd. 34 Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon. 35 Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys. 36 Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd‐dra. 37 Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd. 38 Sicrha dy air i’th was, yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di. 39 Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda. 40 Wele, awyddus ydwyf i’th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.FAU
10 A mab gwraig o Israel, a hwn yn fab gŵr o’r Aifft, a aeth allan ymysg meibion Israel; a mab yr Israeles a gŵr o Israel a ymgynenasant yn y gwersyll. 11 A mab y wraig o Israel a gablodd enw yr Arglwydd, ac a felltigodd: yna y dygasant ef at Moses: ac enw ei fam oedd Selomith, merch Dibri, o lwyth Dan. 12 A gosodasant ef yng ngharchar, fel yr hysbysid iddynt o enau yr Arglwydd beth a wnaent. 13 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 14 Dwg y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll: a rhodded pawb a’i clywsant ef eu dwylo ar ei ben ef, a llabyddied yr holl gynulleidfa ef. 15 A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gablo ei Dduw, a ddwg ei bechod. 16 A lladder yn farw yr hwn a felltithio enw yr Arglwydd; yr holl gynulleidfa gan labyddio a’i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dieithr a’r priodor, pan gablo efe enw yr Arglwydd.
17 A’r neb a laddo ddyn, lladder yntau yn farw. 18 A’r hwn a laddo anifail, taled amdano; anifail am anifail. 19 A phan wnelo un anaf ar ei gymydog; fel y gwnaeth, gwneler iddo: 20 Toriad am doriad, llygad am lygad, dant am ddant: megis y gwnaeth anaf ar ddyn, felly gwneler iddo yntau. 21 A’r hwn a laddo anifail, a dâl amdano: a laddo ddyn, a leddir. 22 Bydded un farn i chwi; bydded i’r dieithr, fel i’r priodor: myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw.
23 A mynegodd Moses hyn i feibion Israel: a hwynt a ddygasant y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll, ac a’i llabyddiasant ef â cherrig. Felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
7 Na fernwch, fel na’ch barner: 2 Canys â pha farn y barnoch, y’ch bernir; ac â pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau. 3 A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? 4 Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad imi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad; ac wele drawst yn dy lygad dy hun? 5 O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun; ac yna y gweli’n eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd.
6 Na roddwch y peth sydd sanctaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich gemau o flaen y moch; rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a’ch rhwygo chwi.
7 Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi: 8 Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. 9 Neu a oes un dyn ohonoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg? 10 Ac os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarff iddo? 11 Os chwychwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynnant iddo? 12 Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.