Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
33 Dysg i mi, O Arglwydd, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd. 34 Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon. 35 Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys. 36 Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd‐dra. 37 Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd. 38 Sicrha dy air i’th was, yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di. 39 Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda. 40 Wele, awyddus ydwyf i’th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.FAU
6 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Os pecha dyn, a gwneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a dywedyd celwydd wrth ei gymydog am yr hyn a rodded ato i’w gadw, neu am yr hyn y rhoddes efe ei law, neu yn yr hyn trwy drawster a ddygodd efe, neu yn yr hyn y twyllodd ei gymydog; 3 Neu os cafodd beth gwedi ei golli, a dywedyd celwydd amdano, neu dyngu yn anudon; am ddim o’r holl bethau a wnelo dyn, gan bechu ynddynt: 4 Yna, am iddo bechu, a bod yn euog; bydded iddo roddi yn ei ôl y trais a dreisiodd efe, neu y peth a gafodd trwy dwyll, neu y peth a adawyd i gadw gydag ef, neu y peth wedi ei golli a gafodd efe, 5 Neu beth bynnag y tyngodd efe anudon amdano; taled hynny erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran ato: ar y dydd yr offrymo dros gamwedd, rhodded ef i’r neb a’i piau. 6 A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd, hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd, gyda’th bris di, yn offrwm dros gamwedd, at yr offeiriad. 7 A gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr Arglwydd: a maddeuir iddo, am ba beth bynnag a wnaeth, i fod yn euog ohono.
2 Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os enwaedir chwi, ni lesâ Crist ddim i chwi. 3 Ac yr wyf yn tystiolaethu drachefn i bob dyn a’r a enwaedir, ei fod ef yn ddyledwr i gadw yr holl ddeddf. 4 Chwi a aethoch yn ddi‐fudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf: chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras. 5 Canys nyni yn yr Ysbryd trwy ffydd ydym yn disgwyl gobaith cyfiawnder. 6 Canys yng Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na dienwaediad; ond ffydd yn gweithio trwy gariad.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.