Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 138

Salm Dafydd.

138 Clodforaf di â’m holl galon: yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti. Ymgrymaf tua’th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll. Y dydd y llefais, y’m gwrandewaist; ac a’m cadarnheaist â nerth yn fy enaid. Holl frenhinoedd y ddaear a’th glodforant, O Arglwydd, pan glywant eiriau dy enau. Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd. Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell. Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder, ti a’m bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a’th ddeheulaw a’m hachubai. Yr Arglwydd a gyflawna â mi: dy drugaredd, Arglwydd, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.

1 Samuel 4

A Daeth gair Samuel i holl Israel. Ac Israel a aeth yn erbyn y Philistiaid i ryfel: a gwersyllasant gerllaw Ebeneser: a’r Philistiaid a wersyllasant yn Affec. A’r Philistiaid a ymfyddinasant yn erbyn Israel: a’r gad a ymgyfarfu; a lladdwyd Israel o flaen y Philistiaid: a hwy a laddasant o’r fyddin yn y maes ynghylch pedair mil o wŷr.

A phan ddaeth y bobl i’r gwersyll, henuriaid Israel a ddywedasant, Paham y trawodd yr Arglwydd ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr Arglwydd, a deled i’n mysg ni; fel y cadwo hi ni o law ein gelynion. Felly y bobl a anfonodd i Seilo, ac a ddygasant oddi yno arch cyfamod Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn aros rhwng y ceriwbiaid: ac yno yr oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees, gydag arch cyfamod Duw. A phan ddaeth arch cyfamod yr Arglwydd i’r gwersyll, holl Israel a floeddiasant â bloedd fawr, fel y datseiniodd y ddaear. A phan glybu’r Philistiaid lais y floedd, hwy a ddywedasant, Pa beth yw llais y floedd fawr hon yng ngwersyll yr Hebreaid? A gwybuant mai arch yr Arglwydd a ddaethai i’r gwersyll. A’r Philistiaid a ofnasant: oherwydd hwy a ddywedasant, Daeth Duw i’r gwersyll. Dywedasant hefyd, Gwae ni! canys ni bu’r fath beth o flaen hyn. Gwae ni! pwy a’n gwared ni o law y duwiau nerthol hyn? Dyma y duwiau a drawsant yr Eifftiaid â’r holl blâu yn yr anialwch. Ymgryfhewch, a byddwch wŷr, O Philistiaid; rhag i chwi wasanaethu’r Hebreaid, fel y gwasanaethasant hwy chwi: byddwch wŷr, ac ymleddwch.

10 A’r Philistiaid a ymladdasant; a lladdwyd Israel, a ffodd pawb i’w babell: a bu lladdfa fawr iawn; canys syrthiodd o Israel ddeng mil ar hugain o wŷr traed. 11 Ac arch Duw a ddaliwyd; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, a fuant feirw.

12 A gŵr o Benjamin a redodd o’r fyddin, ac a ddaeth i Seilo y diwrnod hwnnw, â’i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben. 13 A phan ddaeth efe, wele Eli yn eistedd ar eisteddfa gerllaw y ffordd, yn disgwyl: canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch Duw. A phan ddaeth y gŵr i’r ddinas, a mynegi hyn, yr holl ddinas a waeddodd. 14 A phan glywodd Eli lais y waedd, efe a ddywedodd, Beth yw llais y cynnwrf yma? A’r gŵr a ddaeth i mewn ar frys, ac a fynegodd i Eli. 15 Ac Eli oedd fab tair blwydd ar bymtheg a phedwar ugain; a phallasai ei lygaid ef, fel na allai efe weled. 16 A’r gŵr a ddywedodd wrth Eli, Myfi sydd yn dyfod o’r fyddin, myfi hefyd a ffoais heddiw o’r fyddin. A dywedodd yntau, Pa beth a ddigwyddodd, fy mab? 17 A’r gennad a atebodd, ac a ddywedodd, Israel a ffodd o flaen y Philistiaid; a bu hefyd laddfa fawr ymysg y bobl; a’th ddau fab hefyd, Hoffni a Phinees, a fuant feirw, ac arch Duw a ddaliwyd. 18 A phan grybwyllodd efe am arch Duw, yntau a syrthiodd oddi ar yr eisteddle yn wysg ei gefn gerllaw y porth; a’i wddf a dorrodd, ac efe a fu farw: canys y gŵr oedd hen a thrwm. Ac efe a farnasai Israel ddeugain mlynedd.

19 A’i waudd ef, gwraig Phinees, oedd feichiog, yn agos i esgor: a phan glybu sôn ddarfod dal arch Duw, a marw o’i chwegrwn a’i gŵr, hi a ymgrymodd, ac a glafychodd: canys ei gwewyr a ddaeth arni. 20 Ac ynghylch y pryd y bu hi farw, y dywedodd y gwragedd oedd yn sefyll gyda hi, Nac ofna; canys esgoraist ar fab Ond nid atebodd hi, ac nid ystyriodd. 21 A hi a alwodd y bachgen Ichabod; gan ddywedyd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; (am ddal arch Duw, ac am ei chwegrwn a’i gŵr.) 22 A hi a ddywedodd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; canys arch Duw a ddaliwyd.

1 Pedr 4:7-19

Eithr diwedd pob peth a nesaodd: am hynny byddwch sobr, a gwyliadwrus i weddïau. Eithr o flaen pob peth, bydded gennych gariad helaeth tuag at eich gilydd: canys cariad a guddia liaws o bechodau. Byddwch letygar y naill i’r llall, heb rwgnach. 10 Pob un, megis y derbyniodd rodd, cyfrennwch â’ch gilydd, fel daionus oruchwylwyr amryw ras Duw. 11 Os llefaru a wna neb, llefared megis geiriau Duw; os gweini y mae neb, gwnaed megis o’r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist; i’r hwn y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. 12 Anwylyd, na fydded ddieithr gennych am y profiad tanllyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi: 13 Eithr llawenhewch, yn gymaint â’ch bod yn gyfranogion o ddioddefiadau Crist; fel, pan ddatguddier ei ogoniant ef, y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu. 14 Os difenwir chwi er mwyn enw Crist, gwyn eich byd; oblegid y mae Ysbryd y gogoniant, ac Ysbryd Duw yn gorffwys arnoch: ar eu rhan hwynt yn wir efe a geblir, ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir. 15 Eithr na ddioddefed neb ohonoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwgweithredwr, neu fel un yn ymyrraeth â materion rhai eraill: 16 Eithr os fel Cristion, na fydded gywilydd ganddo; ond gogonedded Dduw yn hyn o ran. 17 Canys daeth yr amser i ddechrau o’r farn o dŷ Dduw: ac os dechrau hi yn gyntaf arnom ni, beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i efengyl Duw? 18 Ac os braidd y mae’r cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a’r pechadur? 19 Am hynny y rhai hefyd sydd yn dioddef yn ôl ewyllys Duw, gorchmynnant eu heneidiau iddo ef, megis i Greawdwr ffyddlon, gan wneuthur yn dda.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.