Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
110 Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed. 2 Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Seion: Ilywodraetha di yng nghanol dy elynion. 3 Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti. 4 Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec. 5 Yr Arglwydd ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint. 6 Efe a farn ymysg y cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad. 7 Efe a yf o’r afon ar y ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.
22 A Pharo a orchmynnodd i’w holl bobl, gan ddywedyd, Pob mab a’r a enir, bwriwch ef i’r afon; ond cedwch yn fyw bob merch.
2 Yna gŵr o dŷ Lefi a aeth, ac a briododd ferch i Lefi. 2 A’r wraig a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab: a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe, hi a’i cuddiodd ef dri mis. 3 A phan na allai hi ei guddio ef yn hwy, hi a gymerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg; ac a osododd y bachgen ynddo, ac a’i rhoddodd ymysg yr hesg ar fin yr afon. 4 A’i chwaer ef a safodd o bell, i gael gwybod beth a wneid iddo ef.
5 A merch Pharo a ddaeth i waered i’r afon i ymolchi; (a’i llancesau oedd yn rhodio gerllaw yr afon;) a hi a ganfu’r cawell yng nghanol yr hesg, ac a anfonodd ei llawforwyn i’w gyrchu ef. 6 Ac wedi iddi ei agoryd, hi a ganfu’r bachgen; ac wele y plentyn yn wylo: a hi a dosturiodd wrtho, ac a ddywedodd, Un o blant yr Hebreaid yw hwn. 7 Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrth ferch Pharo, A af fi i alw atat famaeth o’r Hebreësau, fel y mago hi y bachgen i ti? 8 A merch Pharo a ddywedodd wrthi, Dos. A’r llances a aeth ac a alwodd fam y bachgen. 9 A dywedodd merch Pharo wrthi, Dwg ymaith y bachgen hwn, a maga ef i mi, a minnau a roddaf i ti dy gyflog. A’r wraig a gymerodd y bachgen, ac a’i magodd. 10 Pan aeth y bachgen yn fawr, hi a’i dug ef i ferch Pharo; ac efe a fu iddi yn fab: a hi a alwodd ei enw ef Moses; Oherwydd (eb hi) o’r dwfr y tynnais ef.
23 Trwy ffydd, Moses, pan anwyd, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos eu bod yn ei weled yn fachgen tlws: ac nid ofnasant orchymyn y brenin. 24 Trwy ffydd, Moses, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharo; 25 Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser; 26 Gan farnu yn fwy golud ddirmyg Crist na thrysorau’r Aifft: canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gobrwy.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.