Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 78:1-7

Maschil i Asaff.

78 Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau. Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o’r cynfyd: Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni. Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr Arglwydd, a’i nerth, a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe. Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant: Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau: Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchmynion ef:

Josua 20

20 A Llefarodd yr Arglwydd wrth Josua, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Moeswch i chwi ddinasoedd nodded, am y rhai y lleferais wrthych trwy law Moses: Fel y ffo yno y llofrudd a laddo neb mewn amryfusedd, neu mewn anwybod: a byddant i chwi yn noddfa rhag dialydd y gwaed. A phan ffo efe i un o’r dinasoedd hynny, a sefyll wrth ddrws porth y ddinas, a mynegi ei achosion lle y clywo henuriaid y ddinas honno; cymerant ef atynt i’r ddinas, a rhoddant le iddo, fel y trigo gyda hwynt. Ac os dialydd y gwaed a erlid ar ei ôl ef, na roddant y lleiddiad yn ei law ef: canys mewn anwybod y trawodd efe ei gymydog, ac nid oedd gas ganddo ef o’r blaen. Ac efe a drig yn y ddinas honno, nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa i farn, ac nes marw yr archoffeiriad fyddo yn y dyddiau hynny: yna dychweled y llofrudd, a deued i’w ddinas ac i’w dŷ ei hun; sef y ddinas yr hon y ffoesai efe ohoni.

Am hynny y cysegrasant Cedes yn Galilea, ym mynydd Nafftali, a Sichem ym mynydd Effraim, a Chaer‐Arba, hon yw Hebron, ym mynydd Jwda. Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain i Jericho, y rhoddasant Beser yn yr anialwch ar y gwastadedd, o lwyth Reuben, a Ramoth yn Gilead o lwyth Gad, a Golan yn Basan o lwyth Manasse. Y rhai hyn oedd ddinasoedd gosodedig i holl feibion Israel, ac i’r dieithr a ymdeithiai yn eu mysg hwynt; fel y ffoai pawb iddynt a’r a laddai neb mewn amryfusedd; ac na byddai marw trwy law dialydd y gwaed, nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa.

Mathew 24:1-14

24 A’r Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o’r deml: a’i ddisgyblion a ddaethant ato, i ddangos iddo adeiladau’r deml. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, Ni adewir yma garreg ar garreg, a’r ni ddatodir.

Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, y disgyblion a ddaethant ato o’r neilltu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o’th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi. Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw’r diwedd eto. Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfâu mewn mannau. A dechreuad gofidiau yw hyn oll. Yna y’ch traddodant chwi i’ch gorthrymu, ac a’ch lladdant: a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i. 10 Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd. 11 A gau broffwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer. 12 Ac oherwydd yr amlha anwiredd, fe a oera cariad llawer. 13 Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig. 14 A’r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy’r holl fyd, er tystiolaeth i’r holl genhedloedd: ac yna y daw’r diwedd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.