Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
49 Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio. 50 Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a’m bywhaodd i. 51 Y beilchion a’m gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di. 52 Cofiais, O Arglwydd, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais. 53 Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di. 54 Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod. 55 Cofiais dy enw, Arglwydd, y nos; a chedwais dy gyfraith. 56 Hyn oedd gennyf, am gadw ohonof dy orchmynion di.CHETH
22 Y geiriau hyn a lefarodd yr Arglwydd wrth eich holl gynulleidfa yn y mynydd, o ganol y tân, y cwmwl, a’r tywyllwch, â llais uchel; ac ni chwanegodd ddim; ond ysgrifennodd hwynt ar ddwy lech o gerrig, ac a’u rhoddes ataf fi. 23 A darfu, wedi clywed ohonoch y llais o ganol y tywyllwch, (a’r mynydd yn llosgi gan dân,) yna nesasoch ataf, sef holl benaethiaid eich llwythau, a’ch henuriaid chwi; 24 Ac a ddywedasoch, Wele, yr Arglwydd ein Duw a ddangosodd i ni ei ogoniant, a’i fawredd; a’i lais ef a glywsom ni o ganol y tân: heddiw y gwelsom lefaru o Dduw wrth ddyn, a byw ohono. 25 Weithian gan hynny paham y byddwn feirw? oblegid y tân mawr hwn a’n difa ni: canys os nyni a chwanegwn glywed llais yr Arglwydd ein Duw mwyach, marw a wnawn. 26 Oblegid pa gnawd oll sydd, yr hwn a glybu lais y Duw byw yn llefaru o ganol y tân, fel nyni, ac a fu fyw? 27 Nesâ di, a chlyw yr hyn oll a ddywed yr Arglwydd ein Duw; a llefara di wrthym ni yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd ein Duw wrthyt ti: a nyni a wrandawn, ac a wnawn hynny. 28 A’r Arglwydd a glybu lais eich geiriau chwi, pan lefarasoch wrthyf; a dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Clywais lais geiriau y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyt: da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant. 29 O na byddai gyfryw galon ynddynt, i’m hofni i, ac i gadw fy holl orchmynion bob amser; fel y byddai da iddynt ac i’w plant yn dragwyddol! 30 Dos, dywed wrthynt, Dychwelwch i’ch pebyll. 31 Ond saf di yma gyda myfi; a mi a ddywedaf wrthyt yr holl orchmynion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau a ddysgi di iddynt, ac a wnânt hwythau yn y wlad yr wyf fi ar ei rhoddi iddynt i’w pherchenogi 32 Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi: na chiliwch i’r tu deau nac i’r tu aswy. 33 Cerddwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi; fel y byddoch fyw, ac y byddo yn dda i chwi, ac yr estynnoch ddyddiau yn y wlad yr hon a feddiennwch.
6 Adyma ’r gorchmynion, y deddfau, a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu: 2 Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl ddeddfau, a’i orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a’th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estynner dy ddyddiau.
3 Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd Arglwydd Dduw dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
17 Gan hynny od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd: yr hen bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd. 18 A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a’n cymododd ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymod; 19 Sef, bod Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau; ac wedi gosod ynom ni air y cymod. 20 Am hynny yr ydym ni yn genhadau dros Grist, megis pe byddai Duw yn deisyf arnoch trwom ni: yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymoder chwi â Duw. 21 Canys yr hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe yn bechod drosom ni; fel y’n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.