Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
113 Molwch yr Arglwydd. Gweision yr Arglwydd, molwch, ie, molwch enw yr Arglwydd. 2 Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. 3 O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr Arglwydd. 4 Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd. 5 Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel, 6 Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear? 7 Efe sydd yn codi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen, 8 I’w osod gyda phendefigion, ie, gyda phendefigion ei bobl. 9 Yr hwn a wna i’r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr Arglwydd.
14 Tewais er ys talm, distewais, ymateliais; llefaf fel gwraig yn esgor, difwynaf, a difethaf ar unwaith. 15 Mi a wnaf y mynyddoedd a’r bryniau yn ddiffeithwch, a’u holl wellt a wywaf; ac a wnaf yr afonydd yn ynysoedd, a’r llynnoedd a sychaf. 16 Arweiniaf y deilliaid ar hyd ffordd nid adnabuant; a gwnaf iddynt gerdded ar hyd llwybrau nid adnabuant; gwnaf dywyllwch yn oleuni o’u blaen hwynt, a’r pethau ceimion yn union. Dyma y pethau a wnaf iddynt, ac nis gadawaf hwynt.
17 Troir yn eu hôl, a llwyr waradwyddir y rhai a ymddiriedant mewn delwau cerfiedig, y rhai a ddywedant wrth y delwau tawdd, Chwi yw ein duwiau ni. 18 O fyddariaid, gwrandewch; a’r deillion, edrychwch i weled. 19 Pwy sydd ddall ond fy ngwas i? neu fyddar fel fy nghennad a anfonais? pwy mor ddall â’r perffaith, a dall fel gwas yr Arglwydd? 20 Er gweled llawer, eto nid ystyri; er agoryd clustiau, eto ni wrendy. 21 Yr Arglwydd sydd fodlon er mwyn ei gyfiawnder; efe a fawrha y gyfraith, ac a’i gwna yn anrhydeddus.
5 Yr oedd yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, ryw offeiriad a’i enw Sachareias, o ddyddgylch Abeia: a’i wraig oedd o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth. 6 Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd yn ddiargyhoedd. 7 Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn amhlantadwy; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran. 8 A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw, yn nhrefn ei ddyddgylch ef, 9 Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo arogldarthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd. 10 A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl‐darthiad. 11 Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl‐darth. 12 A Sachareias, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno. 13 Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Sachareias: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan. 14 A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef. 15 Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam. 16 A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw. 17 Ac efe a â o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Eleias, i droi calonnau’r tadau at y plant, a’r anufudd i ddoethineb y cyfiawn; i ddarparu i’r Arglwydd bobl barod. 18 A dywedodd Sachareias wrth yr angel, Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? canys hynafgwr wyf fi, a’m gwraig hefyd mewn gwth o oedran. 19 A’r angel gan ateb a ddywedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll gerbron Duw, ac a anfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegi i ti’r newyddion da hyn. 20 Ac wele, ti a fyddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hyn, am na chredaist i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser. 21 Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Sachareias: a rhyfeddu a wnaethant ei fod ef yn aros cyhyd yn y deml. 22 A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy a wybuant weled ohono weledigaeth yn y deml: ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt; ac efe a arhosodd yn fud. 23 A bu, cyn gynted ag y cyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth ef, fyned ohono i’w dŷ ei hun. 24 Ac ar ôl y dyddiau hynny y cafodd Elisabeth ei wraig ef feichiogi, ac a ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd, 25 Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf, i dynnu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.