Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân Asaff.
76 Hynod yw Duw yn Jwda; mawr yw ei enw ef yn Israel. 2 Ei babell hefyd sydd yn Salem, a’i drigfa yn Seion. 3 Yna y torrodd efe saethau y bwa, y darian, y cleddyf hefyd, a’r frwydr. Sela. 4 Gogoneddusach wyt a chadarnach na mynyddoedd yr ysbail. 5 Ysbeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hun: a’r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo. 6 Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob, y rhoed y cerbyd a’r march i gysgu. 7 Tydi, tydi, wyt ofnadwy; a phwy a saif o’th flaen pan enynno dy ddicter? 8 O’r nefoedd y peraist glywed barn; ofnodd, a gostegodd y ddaear, 9 Pan gyfododd Duw i farn, i achub holl rai llednais y tir. Sela. 10 Diau cynddaredd dyn a’th folianna di: gweddill cynddaredd a waherddi. 11 Addunedwch, a thelwch i’r Arglwydd eich Duw: y rhai oll ydynt o’i amgylch ef, dygant anrheg i’r ofnadwy. 12 Efe a dyr ymaith ysbryd tywysogion: y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear.
66 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y nef yw fy ngorseddfainc, a’r ddaear yw lleithig fy nhraed: mae y tŷ a adeiledwch i mi? ac mae y fan y gorffwysaf? 2 Canys y pethau hyn oll a wnaeth fy llaw, a thrwof fi y mae hyn oll, medd yr Arglwydd: ond ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan a’r cystuddiedig o ysbryd, ac sydd yn crynu wrth fy ngair. 3 Yr hwn a laddo ych, sydd fel yr hwn a laddo ŵr; yr hwn a abertho oen, sydd fel yr hwn a dorfynyglo gi; yr hwn a offrymo offrwm, sydd fel ped offrymai waed moch; yr hwn a arogldartho thus, sydd fel pe bendigai eilun: ie, hwy a ddewisasant eu ffyrdd eu hun, a’u henaid a ymhyfrydodd yn eu ffieidd‐dra. 4 Minnau a ddewisaf eu dychmygion hwynt, ac a ddygaf arnynt yr hyn a ofnant: am alw ohonof, ac nid oedd a atebai; lleferais, ac ni wrandawsant: eithr gwnaethant yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg, a’r hyn nid oedd dda gennyf a ddewisasant.
5 Gwrandewch air yr Arglwydd, y rhai a grynwch wrth ei air ef; Eich brodyr y rhai a’ch casasant, ac a’ch gyrasant ar encil er mwyn fy enw i, a ddywedasant, Gogonedder yr Arglwydd: eto i’ch llawenydd chwi y gwelir ef, a hwynt a waradwyddir. 6 Llef soniarus o’r ddinas, llef o’r deml, llef yr Arglwydd yn talu y pwyth i’w elynion. 7 Cyn ei chlafychu, yr esgorodd; cyn dyfod gwewyr arni, y rhyddhawyd hi ar fab. 8 Pwy a glybu y fath beth â hyn? pwy a welodd y fath bethau â hyn? A wneir i’r ddaear dyfu mewn un dydd? a enir cenedl ar unwaith? Pan glafychodd Seion, yr esgorodd hefyd ar ei meibion. 9 A ddygaf fi i’r enedigaeth, ac oni pharaf esgor? medd yr Arglwydd: a baraf fi esgor, ac a luddiaf? medd dy Dduw. 10 Llawenhewch gyda Jerwsalem, a byddwch hyfryd gyda hi, y rhai oll a’i cerwch hi: llawenhewch gyda hi yn llawen, y rhai oll a alerwch o’i phlegid hi: 11 Fel y sugnoch, ac y’ch diwaller â bronnau ei diddanwch hi; fel y godroch, ac y byddoch hyfryd gan helaethrwydd ei gogoniant hi. 12 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, mi a estynnaf iddi heddwch fel afon, a gogoniant y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol: yna y sugnwch, ar ei hystlys hi y’ch dygir, ac ar ei gliniau y’ch diddenir. 13 Fel un yr hwn y diddana ei fam ef, felly y diddanaf fi chwi; ac yn Jerwsalem y’ch diddenir.
23 Pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn llesáu: pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn adeiladu. 24 Na cheisied neb yr eiddo ei hun; ond pob un yr eiddo arall. 25 Beth bynnag a werthir yn y gigfa, bwytewch; heb ofyn dim er mwyn cydwybod: 26 Canys eiddo’r Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder. 27 Os bydd i neb o’r rhai di‐gred eich gwahodd, ac os mynnwch fyned; bwytewch beth bynnag a rodder ger eich bron, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod. 28 Eithr os dywed neb wrthych, Peth wedi ei aberthu i eilunod yw hwn; na fwytewch, er mwyn hwnnw yr hwn a’i mynegodd, ac er mwyn cydwybod: canys eiddo’r Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder. 29 Cydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti, ond yr eiddo arall: canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall? 30 Ac os wyf fi trwy ras yn cymryd cyfran, paham y’m ceblir am y peth yr wyf yn rhoddi diolch amdano? 31 Pa un bynnag gan hynny ai bwyta ai yfed, ai beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw. 32 Byddwch ddiachos tramgwydd i’r Iddewon ac i’r Cenhedloedd hefyd, ac i eglwys Dduw: 33 Megis yr ydwyf finnau yn rhyngu bodd i bawb ym mhob peth: heb geisio fy llesâd fy hun, ond llesâd llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig.
11 Byddwch ddilynwyr i mi, megis yr wyf finnau i Grist.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.