Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân Asaff.
76 Hynod yw Duw yn Jwda; mawr yw ei enw ef yn Israel. 2 Ei babell hefyd sydd yn Salem, a’i drigfa yn Seion. 3 Yna y torrodd efe saethau y bwa, y darian, y cleddyf hefyd, a’r frwydr. Sela. 4 Gogoneddusach wyt a chadarnach na mynyddoedd yr ysbail. 5 Ysbeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hun: a’r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo. 6 Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob, y rhoed y cerbyd a’r march i gysgu. 7 Tydi, tydi, wyt ofnadwy; a phwy a saif o’th flaen pan enynno dy ddicter? 8 O’r nefoedd y peraist glywed barn; ofnodd, a gostegodd y ddaear, 9 Pan gyfododd Duw i farn, i achub holl rai llednais y tir. Sela. 10 Diau cynddaredd dyn a’th folianna di: gweddill cynddaredd a waherddi. 11 Addunedwch, a thelwch i’r Arglwydd eich Duw: y rhai oll ydynt o’i amgylch ef, dygant anrheg i’r ofnadwy. 12 Efe a dyr ymaith ysbryd tywysogion: y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear.
17 Yn lle pres y dygaf aur, ac yn lle haearn y dygaf arian, ac yn lle coed, bres, ac yn lle cerrig, haearn; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol, a’th drethwyr yn gyfiawn. 18 Ni chlywir mwy sôn am drais yn dy wlad, na distryw na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a elwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a’th byrth yn Foliant. 19 Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a’r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a’th Dduw yn ogoniant i ti. 20 Ni fachluda dy haul mwyach, a’th leuad ni phalla: oherwydd yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant. 21 Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll: etifeddant y tir byth, sef blaguryn fy mhlanhigion, gwaith fy nwylo, fel y’m gogonedder. 22 Y bychan a fydd yn fil, a’r gwael yn genedl gref. Myfi yr Arglwydd a brysuraf hynny yn ei amser.
25 Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i’n gilydd. 26 Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi: 27 Ac na roddwch le i ddiafol. 28 Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â’i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i’w gyfrannu i’r hwn y mae angen arno. 29 Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o’ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i’r gwrandawyr. 30 Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw, trwy’r hwn y’ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth. 31 Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni: 32 A byddwch gymwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i’ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau.
5 Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw, fel plant annwyl; 2 A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a’i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.