Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
137 Cyfiawn ydwyt ti, O Arglwydd, ac uniawn yw dy farnedigaethau. 138 Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn. 139 Fy sêl a’m difaodd; oherwydd i’m gelynion anghofio dy eiriau di. 140 Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy was yn ei hoffi. 141 Bychan ydwyf fi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchmynion. 142 Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth, a’th gyfraith sydd wirionedd. 143 Adfyd a chystudd a’m goddiweddasant; a’th orchmynion oedd fy nigrifwch. 144 Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.COFF
5 A hefyd gan ei fod yn troseddu trwy win, gŵr balch yw efe, ac heb aros gartref, yr hwn a helaetha ei feddwl fel uffern, ac y mae fel angau, ac nis digonir; ond efe a gasgl ato yr holl genhedloedd, ac a gynnull ato yr holl bobloedd. 6 Oni chyfyd y rhai hyn oll yn ei erbyn ddihareb, a gair du yn ei erbyn, a dywedyd, Gwae a helaetho y peth nid yw eiddo! pa hyd? a’r neb a lwytho arno ei hun y clai tew! 7 Oni chyfyd yn ddisymwth y rhai a’th frathant, ac oni ddeffry y rhai a’th gystuddiant, a thi a fyddi yn wasarn iddynt? 8 Am i ti ysbeilio cenhedloedd lawer, holl weddill y bobloedd a’th ysbeilia dithau: am waed dynion, ac am y trais ar y tir, ar y ddinas, ac ar oll a drigant ynddi.
9 Gwae a elwo elw drwg i’w dŷ, i osod ei nyth yn uchel, i ddianc o law y drwg! 10 Cymeraist gyngor gwarthus i’th dŷ, wrth ddistrywio pobloedd lawer; pechaist yn erbyn dy enaid. 11 Oherwydd y garreg a lefa o’r mur, a’r trawst a’i hetyb o’r gwaith coed.
39 Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Ein tad ni yw Abraham. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech. 40 Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd, yr hwn a glywais i gan Dduw: hyn ni wnaeth Abraham. 41 Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi. Am hynny y dywedasant wrtho, Nid trwy buteindra y cenhedlwyd ni: un Tad sydd gennym ni, sef Duw. 42 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Pe Duw fyddai eich Tad, chwi a’m carech i: canys oddi wrth Dduw y deilliais, ac y deuthum i; oblegid nid ohonof fy hun y deuthum i, ond efe a’m hanfonodd i. 43 Paham nad ydych yn deall fy lleferydd i? am na ellwch wrando fy ymadrodd i. 44 O’ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo. 45 Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd, nid ydych yn credu i mi. 46 Pwy ohonoch a’m hargyhoedda i o bechod? Ac od wyf fi yn dywedyd y gwir, paham nad ydych yn credu i mi? 47 Y mae’r hwn sydd o Dduw, yn gwrando geiriau Duw: am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad ydych o Dduw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.