Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
14 Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant; ffieiddwaith a wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni. 2 Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â Duw. 3 Ciliodd pawb; cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un. 4 Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr Arglwydd. 5 Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae Duw yng nghenhedlaeth y cyfiawn. 6 Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi; am fod yr Arglwydd yn obaith iddo. 7 Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenha Israel.
13 Wele, megis cymylau y daw i fyny, a’i gerbydau megis corwynt: ei feirch sydd ysgafnach na’r eryrod. Gwae nyni! canys ni a anrheithiwyd. 14 O Jerwsalem, golch dy galon oddi wrth ddrygioni, fel y byddech gadwedig: pa hyd y lletyi o’th fewn goeg amcanion? 15 Canys llef sydd yn mynegi allan o Dan, ac yn cyhoeddi cystudd allan o fynydd Effraim. 16 Coffewch i’r cenhedloedd, wele, cyhoeddwch yn erbyn Jerwsalem, ddyfod gwylwyr o wlad bell, a llefaru yn erbyn dinasoedd Jwda. 17 Megis ceidwaid maes y maent o amgylch yn ei herbyn; am iddi fy niclloni, medd yr Arglwydd. 18 Dy ffordd di a’th amcanion a wnaethant hyn i ti: dyma dy ddrygioni di; am ei fod yn chwerw, am ei fod yn cyrhaeddyd hyd at dy galon di.
19 Fy mol, fy mol; gofidus wyf o barwydennau fy nghalon; mae fy nghalon yn terfysgu ynof: ni allaf dewi, am i ti glywed sain yr utgorn, O fy enaid, a gwaedd rhyfel. 20 Dinistr ar ddinistr a gyhoeddwyd; canys yr holl dir a anrheithiwyd: yn ddisymwth y distrywiwyd fy lluestai i, a’m cortenni yn ddiatreg. 21 Pa hyd y gwelaf faner, ac y clywaf sain yr utgorn?
29 Rhag trwst y gwŷr meirch a’r saethyddion y ffy yr holl ddinas; hwy a ânt i’r drysni, ac a ddringant ar y creigiau: yr holl ddinasoedd a adewir, ac heb neb a drigo ynddynt. 30 A thithau yr anrheithiedig, beth a wnei? Er ymwisgo ohonot ag ysgarlad, er i ti ymdrwsio â thlysau aur, er i ti liwio dy wyneb â lliwiau, yn ofer y’th wnei dy hun yn deg; dy gariadau a’th ddirmygant, ac a geisiant dy einioes. 31 Canys clywais lef megis gwraig yn esgor, cyfyngder fel benyw yn esgor ar ei hetifedd cyntaf, llef merch Seion yn ochain, ac yn lledu ei dwylo, gan ddywedyd, Gwae fi yr awr hon! oblegid diffygiodd fy enaid gan leiddiaid.
11 Myfi yw’r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid. 12 Eithr y gwas cyflog, a’r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a’r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu’r defaid. 13 Y mae’r gwas cyflog yn ffoi, oblegid mai gwas cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid. 14 Myfi yw’r bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a’m hadwaenir gan yr eiddof fi. 15 Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau’r Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid. 16 A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o’r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a’m llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail. 17 Am hyn y mae’r Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn. 18 Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun. Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i’w chymryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.
19 Yna y bu drachefn ymrafael ymysg yr Iddewon, am yr ymadroddion hyn. 20 A llawer ohonynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: paham y gwrandewch chwi arno ef? 21 Eraill a ddywedasant, Nid yw’r rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo. A all cythraul agoryd llygaid y deillion?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.