Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 77:1-2

I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Asaff.

77 A’m llef y gwaeddais ar Dduw, â’m llef ar Dduw; ac efe a’m gwrandawodd. Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu.

Salmau 77:11-20

11 Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt. 12 Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf. 13 Dy ffordd, O Dduw, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr â’n Duw ni? 14 Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd. 15 Gwaredaist â’th fraich dy bobl, meibion Jacob a Joseff. Sela. 16 Y dyfroedd a’th welsant, O Dduw, y dyfroedd a’th welsant: hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd. 17 Y cymylau a dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant. 18 Twrf dy daran a glywyd o amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear. 19 Dy ffordd sydd yn y môr, a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl. 20 Tywysaist dy bobl fel defaid, trwy law Moses ac Aaron.

2 Brenhinoedd 1:1-12

Yna Moab a wrthryfelodd yn erbyn Israel, wedi marwolaeth Ahab. Ac Ahaseia a syrthiodd trwy ddellt o’i lofft, yr hon oedd yn Samaria, ac a glafychodd; ac efe a anfonodd genhadau, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, ac ymofynnwch â Baal‐sebub duw Ecron, a fyddaf fi byw o’r clefyd hwn. Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Eleias y Thesbiad, Cyfod, dos i fyny i gyfarfod â chenhadau brenin Samaria, a dywed wrthynt, Ai am nad oedd Duw yn Israel, yr ydych chwi yn myned i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron? Ac am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw. Ac Eleias a aeth ymaith.

A phan ddychwelodd y cenhadau ato ef, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y dychwelasoch chwi? A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr a ddaeth i fyny i’n cyfarfod ni, ac a ddywedodd wrthym ni, Ewch, dychwelwch at y brenin a’ch anfonodd, a lleferwch wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ai am nad oes Duw yn Israel, yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron? oherwydd hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddull oedd ar y gŵr a ddaeth i fyny i’ch cyfarfod chwi, ac a lefarodd wrthych yr ymadroddion yma? A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr blewog oedd efe, wedi ymwregysu hefyd â gwregys croen am ei lwynau. Dywedodd yntau, Eleias y Thesbiad oedd efe. Yna efe a anfonodd ato ef dywysog ar ddeg a deugain, ynghyd a’i ddeg a deugain: ac efe a aeth i fyny ato ef; (ac wele ef yn eistedd ar ben bryn;) ac a lefarodd wrtho, Ti ŵr Duw, y brenin a lefarodd, Tyred i waered. 10 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tân o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain. 11 A’r brenin a anfonodd eilwaith ato ef dywysog arall ar ddeg a deugain, â’i ddeg a deugain: ac efe a atebodd ac a ddywedodd, O ŵr Duw, fel hyn y dywedodd y brenin, Tyred i waered yn ebrwydd. 12 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tân o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân Duw a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain.

Galatiaid 4:8-20

Eithr y pryd hynny, pan oeddech heb adnabod Duw, chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau. Ac yn awr, a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd yr ydych yn troi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu? 10 Cadw yr ydych ddiwrnodau, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd. 11 Y mae arnaf ofn amdanoch, rhag darfod i mi boeni wrthych yn ofer. 12 Byddwch fel myfi, canys yr wyf fi fel chwi, y brodyr, atolwg i chwi: ni wnaethoch i mi ddim cam. 13 A chwi a wyddoch mai trwy wendid y cnawd yr efengylais i chwi y waith gyntaf. 14 A’m profedigaeth, yr hon oedd yn fy nghnawd, ni ddiystyrasoch, ac ni ddirmygasoch; eithr chwi a’m derbyniasoch megis angel Duw, megis Crist Iesu. 15 Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi? canys tystio yr wyf i chwi, pe buasai bosibl, y tynasech eich llygaid, ac a’u rhoesech i mi. 16 A euthum i gan hynny yn elyn i chwi, wrth ddywedyd i chwi y gwir? 17 Y maent yn rhoi mawr serch arnoch, ond nid yn dda; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr serch arnynt hwy. 18 Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi. 19 Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch; 20 Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyda chwi, a newidio fy llais; oherwydd yr wyf yn amau ohonoch.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.