Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Al‐taschith, Michtam Dafydd, pan yrrodd Saul rai i gadw y tŷ i’w ladd ef.
59 Fy Nuw, gwared fi oddi wrth fy ngelynion: amddiffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant i’m herbyn. 2 Gwared fi oddi wrth weithredwyr anwiredd, ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd. 3 Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid: ymgasglodd cedyrn i’m herbyn; nid ar fy mai na’m pechod i, O Arglwydd. 4 Rhedant, ymbaratoant, heb anwiredd ynof fi: deffro dithau i’m cymorth, ac edrych. 5 A thi, Arglwydd Dduw y lluoedd, Duw Israel, deffro i ymweled â’r holl genhedloedd: na thrugarha wrth neb a wnânt anwiredd yn faleisus. Sela. 6 Dychwelant gyda’r hwyr, cyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas. 7 Wele, bytheiriant â’u genau: cleddyfau sydd yn eu gwefusau: canys pwy, meddant, a glyw? 8 Ond tydi, O Arglwydd, a’u gwatweri hwynt; ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd. 9 Oherwydd ei nerth ef, y disgwyliaf wrthyt ti: canys Duw yw fy amddiffynfa. 10 Fy Nuw trugarog a’m rhagflaena: Duw a wna i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion. 11 Na ladd hwynt, rhag i’m pobl anghofio: gwasgar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, O Arglwydd ein tarian. 12 Am bechod eu genau, ac ymadrodd eu gwefusau, dalier hwynt yn eu balchder: ac am y felltith a’r celwydd a draethant. 13 Difa hwynt yn dy lid, difa, fel na byddont: a gwybyddant mai Duw sydd yn llywodraethu yn Jacob, hyd eithafoedd y ddaear. Sela. 14 A dychwelant gyda’r hwyr, a chyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas. 15 Crwydrant am fwyd; ac onis digonir, grwgnachant. 16 Minnau a ganaf am dy nerth, ie, llafarganaf am dy drugaredd yn fore: canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf. 17 I ti, fy nerth, y canaf; canys Duw yw fy amddiffynfa, a Duw fy nhrugaredd.
14 A Jehu mab Jehosaffat mab Nimsi a gydfwriadodd yn erbyn Joram: (a Joram oedd yn cadw Ramoth‐Gilead, efe a holl Israel, rhag Hasael brenin Syria: 15 Ond Joram y brenin a ddychwelasai i ymiacháu i Jesreel, o’r archollion â’r rhai yr archollasai y Syriaid ef wrth ymladd ohono yn erbyn Hasael brenin Syria.) A dywedodd Jehu, Os mynnwch chwi, nac eled un dihangol o’r ddinas i fyned i fynegi i Jesreel. 16 Felly Jehu a farchogodd mewn cerbyd, ac a aeth i Jesreel; canys Joram oedd yn gorwedd yno. Ac Ahaseia brenin Jwda a ddaethai i waered i ymweled â Joram. 17 A gwyliwr oedd yn sefyll ar y tŵr yn Jesreel, ac a ganfu fintai Jehu pan oedd efe yn dyfod, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled mintai. A Joram a ddywedodd, Cymer ŵr march, ac anfon i’w cyfarfod hwynt, a dyweded, Ai heddwch? 18 A gŵr march a aeth i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i. A’r gwyliwr a fynegodd, gan ddywedyd, Y gennad a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd. 19 Yna efe a anfonodd yr ail ŵr march, ac efe a ddaeth atynt hwy, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i. 20 A’r gwyliwr a fynegodd, gan ddywedyd, Efe a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd: a’r gyriad sydd fel gyriad Jehu mab Nimsi; canys y mae efe yn gyrru yn ynfyd. 21 A Joram a ddywedodd, Rhwym y cerbyd. Yntau a rwymodd ei gerbyd ef. A Joram brenin Israel a aeth allan, ac Ahaseia brenin Jwda, pob un yn ei gerbyd, a hwy a aethant yn erbyn Jehu, a chyfarfuant ag ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad. 22 A phan welodd Joram Jehu, efe a ddywedodd, A oes heddwch, Jehu? Dywedodd yntau, Pa heddwch tra fyddo puteindra Jesebel dy fam di, a’i hudoliaeth, mor aml? 23 A Joram a drodd ei law, ac a ffodd, ac a ddywedodd wrth Ahaseia, Y mae bradwriaeth, O Ahaseia. 24 A Jehu a gymerth fwa yn ei law, ac a drawodd Joram rhwng ei ysgwyddau, fel yr aeth y saeth trwy ei galon ef, ac efe a syrthiodd yn ei gerbyd. 25 A Jehu a ddywedodd wrth Bidcar ei dywysog, Cymer, bwrw ef i randir maes Naboth y Jesreeliad: canys cofia pan oeddem ni, mi a thi, yn marchogaeth ynghyd ein dau ar ôl Ahab ei dad ef, roddi o’r Arglwydd arno ef y baich hwn. 26 Diau, meddai yr Arglwydd, gwaed Naboth, a gwaed ei feibion, a welais i neithiwr, a mi a dalaf i ti yn y rhandir hon, medd yr Arglwydd. Gan hynny cymer a bwrw ef yn awr yn y rhandir hon, yn ôl gair yr Arglwydd.
11 Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddienwaediad, gan yr hyn a elwir enwaediad o waith llaw yn y cnawd; 12 Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, wedi eich dieithrio oddi wrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddi wrth amodau’r addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y byd: 13 Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddech gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist. 14 Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni: 15 Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch; 16 Ac fel y cymodai’r ddau â Duw yn un corff trwy’r groes, wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi. 17 Ac efe a ddaeth, ac a bregethodd dangnefedd i chwi’r rhai pell, ac i’r rhai agos. 18 Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad. 19 Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gyd‐ddinasyddion â’r saint, ac yn deulu Duw; 20 Wedi eich goruwchadeiladu ar sail yr apostolion a’r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun yn benconglfaen; 21 Yn yr hwn y mae’r holl adeilad wedi ei chymwys gydgysylltu, yn cynyddu’n deml sanctaidd yn yr Arglwydd: 22 Yn yr hwn y’ch cydadeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy’r Ysbryd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.