Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Maschil, i feibion Cora.
42 Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw. 2 Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron Duw? 3 Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw? 4 Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyda’r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ Dduw, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl. 5 Paham, fy enaid, y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn Nuw: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd. 6 Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o fryn Misar. 7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof fi, 8 Eto yr Arglwydd a orchymyn ei drugaredd liw dydd, a’i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar Dduw fy einioes. 9 Dywedaf wrth Dduw fy nghraig, Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn? 10 Megis â chleddyf yn fy esgyrn y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw? 11 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.
43 Barn fi, O Dduw, a dadlau fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog: gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn. 2 Canys ti yw Duw fy nerth: paham y’m bwri ymaith? paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn? 3 Anfon dy oleuni a’th wirionedd: tywysant hwy fi; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i’th bebyll. 4 Yna yr af at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd; a mi a’th foliannaf ar y delyn, O Dduw, fy Nuw. 5 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? gobeithia yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.
24 Ac Abraham oedd hen, wedi myned yn oedrannus; a’r Arglwydd a fendithiasai Abraham ym mhob dim. 2 A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r a oedd ganddo, Gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd: 3 A mi a baraf i ti dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd, a Duw y ddaear, na chymerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg: 4 Ond i’m gwlad i yr ei, ac at fy nghenedl i yr ei di, ac a gymeri wraig i’m mab Isaac. 5 A’r gwas a ddywedodd wrtho ef, Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ôl i i’r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tir y daethost allan ohono? 6 A dywedodd Abraham wrtho, Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno.
7 Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a’m cymerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o’th flaen di, a thi a gymeri wraig i’m mab oddi yno. 8 Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ôl di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unig na ddychwel di fy mab i yno. 9 A’r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y peth hyn.
10 A chymerodd y gwas ddeg camel, o gamelod ei feistr, ac a aeth ymaith: (canys holl dda ei feistr oedd dan ei law ef;) ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i ddinas Nachor. 11 Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd o’r tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar brynhawn, ynghylch yr amser y byddai merched yn dyfod allan i dynnu dwfr. 12 Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, atolwg, pâr i mi lwyddiant heddiw; a gwna drugaredd â’m meistr Abraham. 13 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr: 14 A bydded, mai y llances y dywedwyf wrthi, Gogwydda, atolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i’th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur ohonot ti drugaredd â’m meistr.
15 A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Rebeca yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham,) a’i hystên ar ei hysgwydd. 16 A’r llances oedd deg odiaeth yr olwg, yn forwyn, a heb i ŵr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i’r ffynnon, ac a lanwodd ei hystên, ac a ddaeth i fyny. 17 A’r gwas a redodd i’w chyfarfod, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi yfed ychydig ddwfr o’th ystên. 18 A hi a ddywedodd, Yf, fy meistr: a hi a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên ar ei llaw, ac a’i diododd ef. 19 A phan ddarfu iddi ei ddiodi ef, hi a ddywedodd, Tynnaf hefyd i’th gamelod, hyd oni ddarffo iddynt yfed. 20 A hi a frysiodd, ac a dywalltodd ei hystên i’r cafn, ac a redodd eilwaith i’r pydew i dynnu, ac a dynnodd i’w holl gamelod ef. 21 A’r gŵr, yn synnu o’i phlegid hi, a dawodd, i wybod a lwyddasai yr Arglwydd ei daith ef, ai naddo.
17 Wele, Iddew y’th elwir di, ac yr wyt yn gorffwys yn y ddeddf, ac yn gorfoleddu yn Nuw; 18 Ac yn gwybod ei ewyllys ef, ac yn darbod pethau rhagorol, gan fod wedi dy addysgu o’r ddeddf; 19 Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i’r deillion, yn llewyrch i’r rhai sydd mewn tywyllwch, 20 Yn athro i’r angall, yn ddysgawdwr i’r rhai bach, a chennyt ffurf y gwybodaeth a’r gwirionedd yn y ddeddf. 21 Tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni’th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladrater, a ladreti di? 22 Yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau, a gysegrysbeili di? 23 Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y ddeddf, trwy dorri’r ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw? 24 Canys enw Duw o’ch plegid chwi a geblir ymhlith y Cenhedloedd, megis y mae yn ysgrifenedig. 25 Canys enwaediad yn wir a wna les, os cedwi y ddeddf: eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad. 26 Os y dienwaediad gan hynny a geidw gyfiawnderau y ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad? 27 Ac oni bydd i’r dienwaediad yr hwn sydd o naturiaeth, os ceidw y ddeddf, dy farnu di, yr hwn wrth y llythyren a’r enwaediad wyt yn troseddu’r ddeddf? 28 Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iddew; ac nid enwaediad yw yr hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd: 29 Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew; ac enwaediad y galon sydd yn yr ysbryd, nid yn y llythyren; yr hwn y mae ei glod nid o ddynion, ond o Dduw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.