Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Brenhinoedd 21:1-10

21 A digwyddodd ar ôl y pethau hyn, fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliad, yr hon oedd yn Jesreel, wrth balas Ahab brenin Samaria. Ac Ahab a lefarodd wrth Naboth, gan ddywedyd, Dyro i mi dy winllan, fel y byddo hi i mi yn ardd lysiau, canys y mae hi yn agos i’m tŷ i: a mi a roddaf i ti amdani hi winllan well na hi; neu, os da fydd gennyt, rhoddaf i ti ei gwerth hi yn arian. A Naboth a ddywedodd wrth Ahab, Na ato yr Arglwydd i mi roddi treftadaeth fy hynafiaid i ti. Ac Ahab a ddaeth i’w dŷ yn athrist ac yn ddicllon, oherwydd y gair a lefarasai Naboth y Jesreeliad wrtho ef; canys efe a ddywedasai, Ni roddaf i ti dreftadaeth fy hynafiaid. Ac efe a orweddodd ar ei wely, ac a drodd ei wyneb ymaith, ac ni fwytâi fara.

Ond Jesebel ei wraig a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Paham y mae dy ysbryd mor athrist, ac nad wyt yn bwyta bara? Ac efe a ddywedodd wrthi, Oherwydd i mi lefaru wrth Naboth y Jesreeliad, a dywedyd wrtho, Dyro i mi dy winllan er arian: neu, os mynni di, rhoddaf i ti winllan amdani. Ac efe a ddywedodd, Ni roddaf i ti fy ngwinllan. A Jesebel ei wraig a ddywedodd wrtho, Ydwyt ti yn awr yn teyrnasu ar Israel? cyfod, bwyta fara, a llawenyched dy galon; myfi a roddaf i ti winllan Naboth y Jesreeliad. Felly hi a ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab, ac a’u seliodd â’i sêl ef, ac a anfonodd y llythyrau at yr henuriaid, ac at y penaethiaid oedd yn ei ddinas yn trigo gyda Naboth. A hi a ysgrifennodd yn y llythyrau, gan ddywedyd, Cyhoeddwch ympryd, a gosodwch Naboth uwchben y bobl. 10 Cyflëwch hefyd ddau ŵr o feibion y fall, gyferbyn ag ef, i dystiolaethu i’w erbyn ef, gan ddywedyd, Ti a geblaist Dduw a’r brenin. Ac yna dygwch ef allan, a llabyddiwch ef, fel y byddo efe marw.

1 Brenhinoedd 21:11-14

11 A gwŷr ei ddinas, sef yr henuriaid a’r penaethiaid, y rhai oedd yn trigo yn ei ddinas ef, a wnaethant yn ôl yr hyn a anfonasai Jesebel atynt hwy, ac yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yn y llythyrau a anfonasai hi atynt hwy. 12 Cyhoeddasant ympryd, a chyfleasant Naboth uwchben y bobl. 13 A dau ŵr, o feibion y fall, a ddaethant, ac a eisteddasant ar ei gyfer ef: a gwŷr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef, sef yn erbyn Naboth, gerbron y bobl, gan ddywedyd, Naboth a gablodd Dduw a’r brenin. Yna hwy a’i dygasant ef allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw. 14 Yna yr anfonasant hwy at Jesebel, gan ddywedyd, Naboth a labyddiwyd, ac a fu farw.

1 Brenhinoedd 21:15-21

15 A phan glybu Jesebel labyddio Naboth, a’i farw, Jesebel a ddywedodd wrth Ahab, Cyfod, perchenoga winllan Naboth y Jesreeliad yr hwn a wrthododd ei rhoddi i ti er arian; canys nid byw Naboth, eithr marw yw. 16 A phan glybu Ahab farw Naboth, Ahab a gyfododd i fyned i waered i winllan Naboth y Jesreeliad, i gymryd meddiant ynddi.

17 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, 18 Cyfod, dos i waered i gyfarfod Ahab brenin Israel, yr hwn sydd yn Samaria: wele efe yng ngwinllan Naboth, yr hon yr aeth efe i waered iddi i’w meddiannu. 19 A llefara wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, A leddaist ti, ac a feddiennaist hefyd? Llefara hefyd wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Yn y fan lle y llyfodd y cŵn waed Naboth, y llyf cŵn dy waed dithau hefyd. 20 A dywedodd Ahab wrth Eleias, A gefaist ti fi, O fy ngelyn? Dywedodd yntau, Cefais: oblegid i ti ymwerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd. 21 Wele fi yn dwyn drwg arnat ti, a mi a dynnaf ymaith dy hiliogaeth di, ac a dorraf oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r gweddilledig yn Israel:

Salmau 5:1-8

I’r Pencerdd ar Nehiloth, Salm Dafydd.

Gwrando fy ngeiriau, Arglwydd; deall fy myfyrdod. Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a’m Duw: canys arnat y gweddïaf. Yn fore, Arglwydd, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny. Oherwydd nid wyt ti Dduw yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi. Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr anwiredd. Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus. A minnau a ddeuaf i’th dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di. Arglwydd, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o’m blaen.

Galatiaid 2:15-21

15 Nyni, y rhai wrth naturiaeth ydym Iddewon, ac nid o’r Cenhedloedd yn bechaduriaid, 16 Yn gwybod nad ydys yn cyfiawnhau dyn trwy weithredoedd y ddeddf, ond trwy ffydd Iesu Grist, ninnau hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel y’n cyfiawnhaer trwy ffydd Crist, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf: oblegid ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd y ddeddf. 17 Ac os, wrth geisio ein cyfiawnhau yng Nghrist, y’n caed ninnau hefyd yn bechaduriaid, a ydyw Crist am hynny yn weinidog pechod? Na ato Duw. 18 Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a ddistrywiais, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr. 19 Canys yr wyf fi trwy’r ddeddf wedi marw i’r ddeddf, fel y byddwn fyw i Dduw. 20 Mi a groeshoeliwyd gyda Christ: eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi: a’r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a’m carodd, ac a’i dodes ei hun drosof fi. 21 Nid wyf yn dirymu gras Duw: canys os o’r ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ofer.

Luc 7:36-8:3

36 Ac un o’r Phariseaid a ddymunodd arno fwyta gydag ef: ac yntau a aeth i dŷ’r Pharisead, ac a eisteddodd i fwyta. 37 Ac wele, gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhŷ’r Pharisead, a ddug flwch o ennaint: 38 A chan sefyll wrth ei draed ef o’r tu ôl, ac wylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau, ac a’u sychodd â gwallt ei phen: a hi a gusanodd ei draed ef, ac a’u hirodd â’r ennaint. 39 A phan welodd y Pharisead, yr hwn a’i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pe bai hwn broffwyd, efe a wybuasai pwy, a pha fath wraig yw’r hon sydd yn cyffwrdd ag ef: canys pechadures yw hi. 40 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Simon, y mae gennyf beth i’w ddywedyd wrthyt. Yntau a ddywedodd, Athro, dywed. 41 Dau ddyledwr oedd i’r un echwynnwr: y naill oedd arno bum can ceiniog o ddyled, a’r llall ddeg a deugain. 42 A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o’r rhai hyn a’i câr ef yn fwyaf? 43 A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Yr wyf fi’n tybied mai’r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Yntau a ddywedodd wrtho, Uniawn y bernaist. 44 Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A weli di’r wraig hon? mi a ddeuthum i’th dŷ di, ac ni roddaist i mi ddwfr i’m traed: ond hon a olchodd fy nhraed â dagrau, ac a’u sychodd â gwallt ei phen. 45 Ni roddaist i mi gusan: ond hon, er pan ddeuthum i mewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed. 46 Fy mhen ag olew nid iraist: ond hon a irodd fy nhraed ag ennaint. 47 Oherwydd paham y dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei haml bechodau hi; oblegid hi a garodd yn fawr: ond y neb y maddeuer ychydig iddo, a gâr ychydig. 48 Ac efe a ddywedodd wrthi, Maddeuwyd i ti dy bechodau. 49 A’r rhai oedd yn cydeistedd i fwyta a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain, Pwy yw hwn sydd yn maddau pechodau hefyd? 50 Ac efe a ddywedodd wrth y wraig, Dy ffydd a’th gadwodd; dos mewn tangnefedd.

A bu wedi hynny, iddo fyned trwy bob dinas a thref, gan bregethu, ac efengylu teyrnas Dduw: a’r deuddeg oedd gydag ef; A gwragedd rai, a’r a iachesid oddi wrth ysbrydion drwg a gwendid; Mair yr hon a elwid Magdalen, o’r hon yr aethai saith gythraul allan; Joanna, gwraig Chusa goruchwyliwr Herod, a Susanna, a llawer eraill, y rhai oedd yn gweini iddo o’r pethau oedd ganddynt.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.