Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 5:1-8

I’r Pencerdd ar Nehiloth, Salm Dafydd.

Gwrando fy ngeiriau, Arglwydd; deall fy myfyrdod. Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a’m Duw: canys arnat y gweddïaf. Yn fore, Arglwydd, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny. Oherwydd nid wyt ti Dduw yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi. Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr anwiredd. Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus. A minnau a ddeuaf i’th dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di. Arglwydd, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o’m blaen.

1 Brenhinoedd 20:35-43

35 A rhyw ŵr o feibion y proffwydi a ddywedodd wrth ei gymydog trwy air yr Arglwydd, Taro fi, atolwg. A’r gŵr a wrthododd ei daro ef. 36 Dywedodd yntau wrtho, Oherwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd, wele, pan elych oddi wrthyf, llew a’th ladd di. Ac efe a aeth oddi wrtho ef, a llew a’i cyfarfu ef, ac a’i lladdodd. 37 Yna efe a gafodd ŵr arall, ac a ddywedodd, Taro fi, atolwg. A’r gŵr a’i trawodd ef, gan ei daro a’i archolli. 38 Felly y proffwyd a aeth ymaith, ac a safodd o flaen y brenin ar y ffordd, ac a ymddieithrodd â lludw ar ei wyneb. 39 A phan ddaeth y brenin heibio, efe a lefodd ar y brenin, ac a ddywedodd, Dy was a aeth i ganol y rhyfel, ac wele, gŵr a drodd heibio, ac a ddug ŵr ataf fi, ac a ddywedodd, Cadw y gŵr hwn: os gan golli y cyll efe, yna y bydd dy einioes di yn lle ei einioes ef, neu ti a deli dalent o arian. 40 A thra yr oedd dy was yn ymdroi yma ac acw, efe a ddihangodd. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, Felly y bydd dy farn di; ti a’i rhoddaist ar lawr. 41 Ac efe a frysiodd, ac a dynnodd ymaith y lludw oddi ar ei wyneb: a brenin Israel a’i hadnabu ef, mai o’r proffwydi yr oedd efe. 42 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd i ti ollwng ymaith o’th law y gŵr a nodais i’w ddifetha, dy einioes di fydd yn lle ei einioes ef, a’th bobl di yn lle ei bobl ef. 43 A brenin Israel a aeth i’w dŷ ei hun yn drist ac yn ddicllon, ac a ddaeth i Samaria.

Luc 5:17-26

17 A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fod Phariseaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno, y rhai a ddaethent o bob pentref yng Ngalilea, a Jwdea, a Jerwsalem: ac yr oedd gallu’r Arglwydd i’w hiacháu hwynt.

18 Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddyn a oedd glaf o’r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a’i ddodi ger ei fron ef. 19 A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn, o achos y dyrfa, hwy a ddringasant ar nen y tŷ, ac a’i gollyngasant ef i waered yn y gwely trwy’r priddlechau, yn y canol gerbron yr Iesu. 20 A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, maddeuwyd i ti dy bechodau. 21 A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd? pwy a ddichon faddau pechodau ond Duw yn unig? 22 A’r Iesu, yn gwybod eu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa resymu yn eich calonnau yr ydych? 23 Pa un hawsaf, ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia? 24 Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau, (eb efe wrth y claf o’r parlys,) Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymer dy wely, a dos i’th dŷ. 25 Ac yn y man y cyfododd efe i fyny yn eu gŵydd hwynt; ac efe a gymerth yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw. 26 A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Gwelsom bethau anhygoel heddiw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.