Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Eseia 55:1-9

55 O Deuwch i’r dyfroedd, bob un y mae syched arno, ie, yr hwn nid oes arian ganddo; deuwch, prynwch, a bwytewch; ie, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian, ac heb werth. Paham y gweriwch arian am yr hyn nid ydyw fara? a’ch llafur am yr hyn nid yw yn digoni? gan wrando gwrandewch arnaf fi, a bwytewch yr hyn sydd dda; ac ymhyfryded eich enaid mewn braster. Gogwyddwch eich clust, a deuwch ataf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid: a mi a wnaf gyfamod tragwyddol â chwi, sef sicr drugareddau Dafydd. Wele, rhoddais ef yn dyst i’r bobl, yn flaenor ac yn athro i’r bobloedd. Wele, cenedl nid adwaeni a elwi, a chenhedloedd ni’th adwaenai di a red atat, er mwyn yr Arglwydd dy Dduw, ac oherwydd Sanct Israel: canys efe a’th ogoneddodd.

Ceisiwch yr Arglwydd, tra y galler ei gael ef; gelwch arno, tra fyddo yn agos. Gadawed y drygionus ei ffordd, a’r gŵr anwir ei feddyliau; a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymer drugaredd arno; ac at ein Duw ni, oherwydd efe a arbed yn helaeth.

Canys nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr Arglwydd. Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na’r ddaear, felly uwch yw fy ffyrdd i na’ch ffyrdd chwi, a’m meddyliau i na’ch meddyliau chwi.

Salmau 63:1-8

Salm Dafydd, pan oedd efe yn niffeithwch Jwda.

63 Ti, O Dduw, yw fy Nuw i; yn fore y’th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr; I weled dy nerth a’th ogoniant, fel y’th welais yn y cysegr. Canys gwell yw dy drugaredd di na’r bywyd: fy ngwefusau a’th foliannant. Fel hyn y’th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw. Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar: Pan y’th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos. Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf. Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a’m cynnal.

1 Corinthiaid 10:1-13

10 Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, fod ein tadau oll dan y cwmwl, a’u myned oll trwy y môr; A’u bedyddio hwy oll i Moses, yn y cwmwl, ac yn y môr; A bwyta o bawb ohonynt yr un bwyd ysbrydol; Ac yfed o bawb ohonynt yr un ddiod ysbrydol: canys hwy a yfasant o’r Graig ysbrydol a oedd yn canlyn: a’r Graig oedd Crist. Eithr ni bu Dduw fodlon i’r rhan fwyaf ohonynt: canys cwympwyd hwynt yn y diffeithwch. A’r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwenychem ddrygioni, megis ag y chwenychasant hwy. Ac na fyddwch eilun‐addolwyr, megis rhai ohonynt hwy; fel y mae yn ysgrifenedig, Eisteddodd y bobl i fwyta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwarae. Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai ohonynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain. Ac na themtiwn Grist, megis ag y temtiodd rhai ohonynt hwy, ac a’u distrywiwyd gan seirff. 10 Ac na rwgnechwch, megis y grwgnachodd rhai ohonynt hwy, ac a’u distrywiwyd gan y dinistrydd. 11 A’r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy; ac a ysgrifennwyd yn rhybudd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd. 12 Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio. 13 Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, ond un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â’r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.

Luc 13:1-9

13 Ac yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnnw rai yn mynegi iddo am y Galileaid, y rhai, y cymysgasai Peilat eu gwaed ynghyd â’u haberthau. A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt, Ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid mwy na’r holl Galileaid, am iddynt ddioddef y cyfryw bethau? Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd. Neu’r deunaw hynny ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Siloam, ac a’u lladdodd hwynt: a ydych chwi yn tybied eu bod hwy yn bechaduriaid mwy na’r holl ddynion oedd yn cyfanheddu yn Jerwsalem? Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd.

Ac efe a ddywedodd y ddameg hon: Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan; ac efe a ddaeth i geisio ffrwyth arno, ac nis cafodd. Yna efe a ddywedodd wrth y gwinllannydd, Wele, tair blynedd yr ydwyf yn dyfod, gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn; ac nid ydwyf yn cael dim: tor ef i lawr; paham y mae efe yn diffrwytho’r tir? Ond efe gan ateb a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi gloddio o’i amgylch, a bwrw tail: Ac os dwg efe ffrwyth, da: onid e, gwedi hynny tor ef i lawr.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.