Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 63:1-8

Salm Dafydd, pan oedd efe yn niffeithwch Jwda.

63 Ti, O Dduw, yw fy Nuw i; yn fore y’th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr; I weled dy nerth a’th ogoniant, fel y’th welais yn y cysegr. Canys gwell yw dy drugaredd di na’r bywyd: fy ngwefusau a’th foliannant. Fel hyn y’th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw. Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar: Pan y’th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos. Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf. Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a’m cynnal.

Daniel 3:19-30

19 Yna y llanwyd Nebuchodonosor o lidiowgrwydd, a gwedd ei wyneb ef a newidiodd yn erbyn Sadrach, Mesach, ac Abednego; am hynny y llefarodd ac y dywedodd am dwymo y ffwrn seithwaith mwy nag y byddid arfer o’i thwymo hi. 20 Ac efe a ddywedodd wrth wŷr cryfion nerthol, y rhai oedd yn ei lu ef, am rwymo Sadrach, Mesach, ac Abednego, i’w bwrw i’r ffwrn o dân poeth. 21 Yna y rhwymwyd y gwŷr hynny yn eu peisiau, eu llodrau, a’u cwcyllau, a’u dillad eraill, ac a’u bwriwyd i ganol y ffwrn o dân poeth. 22 Gan hynny, o achos bod gorchymyn y brenin yn gaeth, a’r ffwrn yn boeth ragorol, fflam y tân a laddodd y gwŷr hynny a fwriasant i fyny Sadrach, Mesach, ac Abednego. 23 A’r triwyr hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego, a syrthiasant yng nghanol y ffwrn o dân poeth yn rhwym. 24 Yna y synnodd ar Nebuchodonosor y brenin, ac y cyfododd ar frys, atebodd hefyd a dywedodd wrth ei gynghoriaid, Onid triwyr a fwriasom ni i ganol y tân yn rhwym? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwir, O frenin. 25 Atebodd a dywedodd yntau, Wele fi yn gweled pedwar o wŷr rhyddion yn rhodio yng nghanol y tân, ac nid oes niwed arnynt; a dull y pedwerydd sydd debyg i Fab Duw.

26 Yna y nesaodd Nebuchodonosor at enau y ffwrn o dân poeth, ac a lefarodd ac a ddywedodd, O Sadrach, Mesach, ac Abednego, gwasanaethwyr y Duw goruchaf, deuwch allan, a deuwch yma. Yna Sadrach, Mesach, ac Abednego a ddaethant allan o ganol y tân. 27 A’r tywysogion, dugiaid, a phendefigion, a chynghoriaid y brenin, a ymgasglasant ynghyd, ac a welsant y gwŷr hyn, y rhai ni finiasai y tân ar eu cyrff, ac ni ddeifiasai flewyn o’u pen, ni newidiasai eu peisiau chwaith, ac nid aethai sawr y tân arnynt. 28 Atebodd Nebuchodonosor a dywedodd, Bendigedig yw Duw Sadrach, Mesach, ac Abednego, yr hwn a anfonodd ei angel, ac a waredodd ei weision a ymddiriedasant ynddo, ac a dorasant orchymyn y brenin, ac a roddasant eu cyrff, rhag gwasanaethu nac ymgrymu ohonynt i un duw, ond i’w Duw eu hun. 29 Am hynny y gosodir gorchymyn gennyf fi, Pob pobl, cenedl, a iaith, yr hon a ddywedo ddim ar fai yn erbyn Duw Sadrach, Mesach, ac Abednego, a wneir yn ddrylliau, a’u tai a wneir yn domen: oherwydd nad oes duw arall a ddichon wared fel hyn. 30 Yna y mawrhaodd y brenin Sadrach, Mesach, ac Abednego, o fewn talaith Babilon.

Datguddiad 2:8-11

Ac at angel yr eglwys sydd yn Smyrna, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r cyntaf a’r diwethaf, yr hwn a fu farw, ac sydd fyw, yn eu dywedyd; Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th gystudd, a’th dlodi, (eithr cyfoethog wyt,) ac mi a adwaen gabledd y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt ond synagog Satan. 10 Nac ofna ddim o’r pethau yr ydwyt i’w dioddef. Wele, y cythraul a fwrw rai ohonoch chwi i garchar, fel y’ch profer; a chwi a gewch gystudd ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd. 11 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; Yr hwn sydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim niwed gan yr ail farwolaeth.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.