Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 27

Salm Dafydd.

27 Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a’m hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd; rhag pwy y dychrynaf? Pan nesaodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion, i’m herbyn, i fwyta fy nghnawd, hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant. Pe gwersyllai llu i’m herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai cad i’m herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus. Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei deml. Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i. Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr Arglwydd. Clyw, O Arglwydd, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf. Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O Arglwydd. Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi, O Dduw fy iachawdwriaeth. 10 Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a’m derbyn. 11 Dysg i mi dy ffordd, Arglwydd, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion. 12 Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i’m herbyn. 13 Diffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni yr Arglwydd yn nhir y rhai byw. 14 Disgwyl wrth yr Arglwydd: ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl, meddaf, wrth yr Arglwydd.

Genesis 14:17-24

17 A brenin Sodom a aeth allan i’w gyfarfod ef, (wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer, a’r brenhinoedd oedd gydag ef,) i ddyffryn Safe, hwn yw dyffryn y brenin. 18 Melchisedec hefyd, brenin Salem, a ddug allan fara a gwin; ac efe oedd offeiriad i Dduw goruchaf: 19 Ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Abram gan Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear: 20 A bendigedig fyddo Duw goruchaf, yr hwn a roddes dy elynion yn dy law. Ac efe a roddes iddo ddegwm o’r cwbl. 21 A dywedodd brenin Sodom wrth Abram, Dod i mi y dynion, a chymer i ti y cyfoeth. 22 Ac Abram a ddywedodd wrth frenin Sodom, Dyrchefais fy llaw at yr Arglwydd Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear, 23 Na chymerwn o edau hyd garrai esgid, nac o’r hyn oll sydd eiddot ti; rhag dywedyd ohonot, Myfi a gyfoethogais Abram: 24 Ond yn unig yr hyn a fwytaodd y llanciau, a rhan y gwŷr a aethant gyda mi, Aner, Escol, a Mamre: cymerant hwy eu rhan.

Philipiaid 3:17-20

17 Byddwch ddilynwyr i mi, frodyr, ac edrychwch ar y rhai sydd yn rhodio felly, megis yr ydym ni yn siampl i chwi. 18 (Canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr awron hefyd dan wylo yn dywedyd, mai gelynion croes Crist ydynt; 19 Diwedd y rhai yw distryw, duw y rhai yw eu bol, a’u gogoniant yn eu cywilydd, y rhai sydd yn synied pethau daearol.) 20 Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd; o’r lle hefyd yr ydym yn disgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist:

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.