Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Gweddi Dafydd.
17 Clyw, Arglwydd, gyfiawnder, ystyria fy lefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll. 2 Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid ar uniondeb. 3 Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau. 4 Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd. 5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed. 6 Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd. 7 Dangos dy ryfedd drugareddau,O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw. 8 Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd, 9 Rhag yr annuwiolion, y rhai a’m gorthrymant, rhag fy ngelynion marwol, y rhai a’m hamgylchant. 10 Caesant gan eu braster: â’u genau y llefarant mewn balchder. 11 Ein cyniweirfa ni a glychynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear. 12 Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn leoedd dirgel. 13 cyfod, Arglwydd, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwio, yr hwn yw dy gleddyf di; 14 Rhag dynion, y rhai yw dy law, O Arglwydd, rhag dynion y byd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma, a’r rhai y llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i’w rhai bychain. 15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.
1 Yr oedd gŵr yng ngwlad Us a’i enw Job; ac yr oedd y gŵr hwnnw yn berffaith ac yn uniawn, ac yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni. 2 Ac iddo y ganwyd saith o feibion, a thair o ferched. 3 A’i olud oedd saith mil o ddefaid, a thair mil o gamelod, a phum can iau o ychen, a phum cant o asynnod, a llawer iawn o wasanaethyddion; ac yr oedd y gŵr hwn yn fwyaf o holl feibion y dwyrain. 4 A’i feibion ef a aent ac a wnaent wledd yn eu tai, bob un ar ei ddiwrnod; ac a anfonent ac a wahoddent eu tair chwaer i fwyta ac i yfed gyda hwynt. 5 A phan ddeuai dyddiau y wledd oddi amgylch, yna Job a anfonai ac a’u sancteiddiai hwynt, ac a gyfodai yn fore, ac a offrymai boethoffrymau yn ôl eu rhifedi hwynt oll: canys dywedodd Job, Fy meibion ond odid a bechasant, ac a felltithiasant Dduw yn eu calonnau. Felly y gwnâi Job yr holl ddyddiau hynny.
6 A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll gerbron yr Arglwydd; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt. 7 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, O ba le yr ydwyt ti yn dyfod? A Satan a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O dramwy ar hyd y ddaear, ac o ymrodio ynddi. 8 A dywedodd yr Arglwydd wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni? 9 Yna Satan a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Ai yn ddiachos y mae Job yn ofni Duw? 10 Oni chaeaist o’i amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ, ac ynghylch yr hyn oll sydd eiddo oddi amgylch? ti a fendithiaist waith ei ddwylo ef, a’i dda ef a gynyddodd ar y ddaear. 11 Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’r hyn oll sydd ganddo, ac efe a’th felltithia o flaen dy wyneb. 12 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, Wele, yr hyn oll sydd eiddo ef yn dy law di; yn unig yn ei erbyn ef ei hun nac estyn dy law. Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd.
13 A dydd a ddaeth, pan oedd ei feibion ef a’i ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf. 14 A daeth cennad at Job, ac a ddywedodd, Yr ychen oedd yn aredig, a’r asynnod oedd yn pori gerllaw iddynt; 15 A’r Sabeaid a ruthrasant, ac a’u dygasant ymaith; y llanciau hefyd a drawsant hwy â min y cleddyf, a mi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti. 16 Tra yr oedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Tân Duw a syrthiodd o’r nefoedd, ac a losgodd y defaid, a’r gweision, ac a’u hysodd hwynt; ond myfi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti. 17 Tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Y Caldeaid a osodasant dair byddin, ac a ruthrasant i’r camelod, ac a’u dygasant ymaith, ac a drawsant y llanciau â min y cleddyf; a minnau fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti. 18 Tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Dy feibion a’th ferched oedd yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf: 19 Ac wele, gwynt mawr a ddaeth oddi ar yr anialwch, ac a drawodd wrth bedair congl y tŷ, ac efe a syrthiodd ar y llanciau, a buant feirw; ond myfi fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti. 20 Yna y cyfododd Job, ac a rwygodd ei fantell, ac a eilliodd ei ben, ac a syrthiodd i lawr, ac a addolodd; 21 Ac a ddywedodd, Noeth y deuthum o groth fy mam, a noeth y dychwelaf yno. Yr Arglwydd a roddodd, ar Arglwydd a ddygodd ymaith; bendigedig fyddo enw yr Arglwydd. 22 Yn hyn i gyd ni phechodd Job, ac ni roddodd yn ynfyd ddim yn erbyn Duw.
34 Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i’ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymwth; 35 Canys efe a ddaw, fel magl, ar warthaf pawb oll a’r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaear. 36 Gwyliwch gan hynny a gweddïwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll gerbron Mab y dyn. 37 A’r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a’r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewydd. 38 A’r holl bobl a foregyrchent ato ef yn y deml, i’w glywed ef.
22 A nesaodd gŵyl y bara croyw, yr hon a elwir y pasg. 2 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.
3 A Satan a seth i mewn i Jwdas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi’r deuddeg. 4 Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd â’r archoffeiriaid a’r blaenoriaid, pa fodd y bradychai efe ef iddynt. 5 Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gytunasant ar roddi arian iddo. 6 Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i’w fradychu ef iddynt yn absen y bobl.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.