Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 17

Gweddi Dafydd.

17 Clyw, Arglwydd, gyfiawnder, ystyria fy lefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll. Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid ar uniondeb. Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau. Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd. Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed. Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd. Dangos dy ryfedd drugareddau,O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw. Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd, Rhag yr annuwiolion, y rhai a’m gorthrymant, rhag fy ngelynion marwol, y rhai a’m hamgylchant. 10 Caesant gan eu braster: â’u genau y llefarant mewn balchder. 11 Ein cyniweirfa ni a glychynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear. 12 Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn leoedd dirgel. 13 cyfod, Arglwydd, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwio, yr hwn yw dy gleddyf di; 14 Rhag dynion, y rhai yw dy law, O Arglwydd, rhag dynion y byd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma, a’r rhai y llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i’w rhai bychain. 15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.

1 Cronicl 21:1-17

21 A Satan a safodd i fyny yn erbyn Israel, ac a anogodd Dafydd i gyfrif Israel. A dywedodd Dafydd wrth Joab, ac wrth benaethiaid y bobl, Ewch, cyfrifwch Israel o Beerseba hyd Dan; a dygwch ataf fi, fel y gwypwyf eu rhifedi hwynt. A dywedodd Joab, Chwaneged yr Arglwydd ei bobl yn gan cymaint ag ydynt: O fy arglwydd frenin, onid gweision i’m harglwydd ydynt hwy oll? paham y cais fy arglwydd hyn? paham y bydd efe yn achos camwedd i Israel? Ond gair y brenin a fu drech na Joab: a Joab a aeth allan, ac a dramwyodd trwy holl Israel, ac a ddaeth i Jerwsalem.

A rhoddes Joab nifer rhifedi y bobl i Dafydd. A holl Israel oedd fil o filoedd a chan mil o wŷr yn tynnu cleddyf; a Jwda oedd bedwar can mil a deng mil a thrigain o wŷr yn tynnu cleddyf. Ond Lefi a Benjamin ni chyfrifasai efe yn eu mysg hwynt; canys ffiaidd oedd gan Joab air y brenin. A bu ddrwg y peth hyn yng ngolwg Duw, ac efe a drawodd Israel. A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw, Pechais yn ddirfawr, oherwydd i mi wneuthur y peth hyn: ac yr awr hon, dilea, atolwg, anwiredd dy was, canys gwneuthum yn ynfyd iawn.

A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Gad, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd, 10 Dos, a llefara wrth Dafydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Tri pheth yr ydwyf fi yn eu gosod o’th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a mi a’i gwnaf i ti. 11 Yna Gad a ddaeth at Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Cymer i ti. 12 Naill ai tair blynedd o newyn; ai dy ddifetha dri mis o flaen dy wrthwynebwyr, a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd; ai ynteu cleddyf yr Arglwydd, sef haint y nodau, yn y tir dri diwrnod, ac angel yr Arglwydd yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ac yr awr hon edrych pa air a ddygaf drachefn i’r hwn a’m hanfonodd. 13 A Dafydd a ddywedodd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi; syrthiwyf, atolwg, yn llaw yr Arglwydd, canys ei drugareddau ef ydynt aml iawn, ac na syrthiwyf yn llaw dyn.

14 Yna y rhoddes yr Arglwydd haint y nodau ar Israel: a syrthiodd o Israel ddeng mil a thrigain mil o wŷr. 15 A Duw a anfonodd angel i Jerwsalem i’w dinistrio hi: ac fel yr oedd yn ei dinistrio, yr Arglwydd a edrychodd, ac a edifarhaodd am y drwg, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio, Digon, bellach, atal dy law. Ac angel yr Arglwydd oedd yn sefyll wrth lawr dyrnu Ornan y Jebusiad. 16 A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr Arglwydd yn sefyll rhwng y ddaear a’r nefoedd, a’i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerwsalem. A syrthiodd Dafydd a’r henuriaid, y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau. 17 A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw, Onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl? a mi yw yr hwn a bechais, ac a wneuthum fawr ddrwg; ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? O Arglwydd fy Nuw, bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dŷ fy nhad, ac nid yn bla ar dy bobl.

1 Ioan 2:1-6

Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch. Ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr gyda’r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn: Ac efe yw’r iawn dros ein pechodau ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd. Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchmynion ef. Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a’i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchmynion ef, celwyddog yw, a’r gwirionedd nid yw ynddo. Eithr yr hwn a gadwo ei air ef, yn wir yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef. Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef, a ddylai yntau felly rodio, megis ag y rhodiodd ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.