Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 91:1-2

91 Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys yng nghysgod yr Hollalluog. Dywedaf am yr Arglwydd, Fy noddfa a’m hamddiffynfa ydyw: fy Nuw; ynddo yr ymddiriedaf.

Salmau 91:9-16

Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti; 10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i’th babell. 11 Canys efe a orchymyn i’w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd. 12 Ar eu dwylo y’th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg. 13 Ar y llew a’r asb y cerddi: y cenau llew a’r ddraig a fethri. 14 Am iddo roddi ei serch arnaf, am hynny y gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw. 15 Efe a eilw arnaf, a mi a’i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef. 16 Digonaf ef â hir ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.

Exodus 5:10-23

10 A meistriaid gwaith y bobl, a’u swyddogion, a aethant allan, ac a lefarasant wrth y bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Pharo, Ni roddaf wellt i chwi. 11 Ewch chwi, a cheisiwch i chwi wellt lle y caffoch; er hynny ni leiheir dim o’ch gwaith. 12 A’r bobl a ymwasgarodd trwy holl wlad yr Aifft, i gasglu sofl yn lle gwellt. 13 A’r meistriaid gwaith oedd yn eu prysuro, gan ddywedyd, Gorffennwch eich gwaith, dogn dydd yn ei ddydd, megis pan oedd gwellt. 14 A churwyd swyddogion meibion Israel, y rhai a osodasai meistriaid gwaith Pharo arnynt hwy; a dywedwyd, Paham na orffenasoch eich tasg, ar wneuthur priddfeini, ddoe a heddiw, megis cyn hynny?

15 Yna swyddogion meibion Israel a ddaethant ac a lefasant ar Pharo, gan ddywedyd, Paham y gwnei fel hyn â’th weision? 16 Gwellt ni roddir i’th weision; a Gwnewch briddfeini i ni, meddant: ac wele dy weision a gurwyd; a’th bobl di dy hun sydd ar y bai. 17 Ac efe a ddywedodd, Segur, segur ydych; am hynny yr ydych chwi yn dywedyd, Gad i ni fyned ac aberthu i’r Arglwydd. 18 Am hynny ewch yn awr, gweithiwch; ac ni roddir gwellt i chwi; eto chwi a roddwch yr un cyfrif o’r priddfeini. 19 A swyddogion meibion Israel a’u gwelent eu hun mewn lle drwg, pan ddywedid, Na leihewch ddim o’ch priddfeini, dogn dydd yn ei ddydd.

20 A chyfarfuant â Moses ac Aaron, yn sefyll ar eu ffordd, pan oeddynt yn dyfod allan oddi wrth Pharo: 21 A dywedasant wrthynt, Edryched yr Arglwydd arnoch chwi, a barned; am i chwi beri i’n sawyr ni ddrewi gerbron Pharo, a cherbron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i’n lladd ni. 22 A dychwelodd Moses at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, paham y drygaist y bobl hyn? i ba beth y’m hanfonaist? 23 Canys er pan ddeuthum at Pharo, i lefaru yn dy enw di, efe a ddrygodd y bobl hyn; a chan waredu ni waredaist dy bobl.

Actau 7:30-34

30 Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Seina, angel yr Arglwydd mewn fflam dân mewn perth. 31 A Moses, pan welodd, a fu ryfedd ganddo y golwg: a phan nesaodd i ystyried, daeth llef yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, 32 Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses, wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiai ystyried. 33 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, Datod dy esgidiau oddi am dy draed; canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo sydd dir sanctaidd. 34 Gan weled y gwelais ddrygfyd fy mhobl y rhai sydd yn yr Aifft, a mi a glywais eu griddfan, ac a ddisgynnais i’w gwared hwy. Ac yn awr tyred, mi a’th anfonaf di i’r Aifft.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.