Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
29 A phan ddaeth Moses i waered o fynydd Sinai, a dwy lech y dystiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i waered o’r mynydd, ni wyddai Moses i groen ei wyneb ddisgleirio wrth lefaru ohono ef wrtho. 30 A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses, wele, yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio; a hwy a ofnasant nesáu ato ef. 31 A Moses a alwodd arnynt. Ac Aaron a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddychwelasant ato ef: a Moses a lefarodd wrthynt hwy. 32 Ac wedi hynny nesaodd holl feibion Israel: ac efe a orchmynnodd iddynt yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd ym mynydd Sinai. 33 Ac nes darfod i Moses lefaru wrthynt, efe a roddes len gudd ar ei wyneb. 34 A phan ddelai Moses gerbron yr Arglwydd i lefaru wrtho, efe a dynnai ymaith y llen gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddelai efe allan, y llefarai wrth feibion Israel yr hyn a orchmynnid iddo. 35 A meibion Israel a welsant wyneb Moses, fod croen wyneb Moses yn disgleirio: a Moses a roddodd drachefn y llen gudd ar ei wyneb, hyd oni ddelai i lefaru wrth Dduw.
99 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear. 2 Mawr yw yr Arglwydd yn Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd. 3 Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw. 4 A nerth y Brenin a hoffa farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyfiawnder a wnei di yn Jacob. 5 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw. 6 Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw: galwasant ar yr Arglwydd, ac efe a’u gwrandawodd hwynt. 7 Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a’r ddeddf a roddodd efe iddynt. 8 Gwrandewaist arnynt, O Arglwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychmygion. 9 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr Arglwydd ein Duw.
12 Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr: 13 Ac nid megis y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai plant Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddileid. 14 Eithr dallwyd eu meddyliau hwynt: canys hyd y dydd heddiw y mae’r un gorchudd, wrth ddarllen yn yr hen destament, yn aros heb ei ddatguddio; yr hwn yng Nghrist a ddileir. 15 Eithr hyd y dydd heddiw, pan ddarllenir Moses, y mae’r gorchudd ar eu calon hwynt. 16 Ond pan ymchwelo at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd. 17 Eithr yr Arglwydd yw’r Ysbryd: a lle mae Ysbryd yr Arglwydd, yno y mae rhyddid. 18 Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych, a newidir i’r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd.
4 Am hynny gan fod i ni y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu; 2 Eithr ni a ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra, na thrin gair Duw yn dwyllodrus, eithr trwy eglurhad y gwirionedd yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw.
28 A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi’r geiriau hyn, gymryd ohono ef Pedr, ac Ioan, ac Iago, a myned i fyny i’r mynydd i weddïo. 29 Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynepryd ef a newidiwyd, a’i wisg oedd yn wen ddisglair. 30 Ac wele, dau ŵr a gydymddiddanodd ag ef, y rhai oedd Moses ac Eleias: 31 Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Jerwsalem. 32 A Phedr, a’r rhai oedd gydag ef, oeddynt wedi trymhau gan gysgu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a’r ddau ŵr y rhai oedd yn sefyll gydag ef. 33 A bu, a hwy yn ymado oddi wrtho ef, ddywedyd o Pedr wrth yr Iesu, O Feistr, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd. 34 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmwl, ac a’u cysgododd hwynt: a hwynt‐hwy a ofnasant wrth fyned ohonynt i’r cwmwl. 35 A daeth llef allan o’r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy Mab annwyl; gwrandewch ef. 36 Ac wedi bod y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o’r pethau a welsent.
37 A darfu drannoeth, pan ddaethant i waered o’r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod ag ef. 38 Ac wele, gŵr o’r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athro, yr wyf yn atolwg i ti, edrych ar fy mab; canys fy unig‐anedig yw. 39 Ac wele, y mae ysbryd yn ei gymryd ef, ac yntau yn ddisymwth yn gweiddi; ac y mae’n ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ysigo ef. 40 Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan; ac nis gallasant. 41 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi, ac y’ch goddefaf? dwg dy fab yma. 42 Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a’i rhwygodd ef, ac a’i drylliodd: a’r Iesu a geryddodd yr ysbryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a’i rhoddes ef i’w dad.
43 A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai’r Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.