Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
4 Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 5 Cyn i mi dy lunio di yn y groth, mi a’th adnabûm; a chyn dy ddyfod o’r groth, y sancteiddiais di; a mi a’th roddais yn broffwyd i’r cenhedloedd. 6 Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, wele, ni fedraf ymadrodd; canys bachgen ydwyf fi.
7 Ond yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Na ddywed, Bachgen ydwyf fi: canys ti a ei at y rhai oll y’th anfonwyf, a’r hyn oll a orchmynnwyf i ti a ddywedi. 8 Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: canys yr ydwyf fi gyda thi i’th waredu, medd yr Arglwydd. 9 Yna yr estynnodd yr Arglwydd ei law, ac a gyffyrddodd â’m genau. A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau di. 10 Gwêl, heddiw y’th osodais ar y cenhedloedd, ac ar y teyrnasoedd, i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, i ddifetha, ac i ddistrywio, i adeiladu, ac i blannu.
71 Ynot ti, O Arglwydd, y gobeithiais; na’m cywilyddier byth. 2 Achub fi, a gwared fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glust ataf, ac achub fi. 3 Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a’m hamddiffynfa. 4 Gwared fi, O fy Nuw, o law yr annuwiol, o law yr anghyfiawn a’r traws. 5 Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd Dduw; fy ymddiried o’m hieuenctid. 6 Wrthyt ti y’m cynhaliwyd o’r bru; ti a’m tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti.
13 Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion, ac heb fod gennyf gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tincian. 2 A phe byddai gennyf broffwydoliaeth, a gwybod ohonof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth; a phe bai gennyf yr holl ffydd, fel y gallwn symudo mynyddoedd, ac heb gennyf gariad, nid wyf fi ddim. 3 A phe porthwn y tlodion â’m holl dda, a phe rhoddwn fy nghorff i’m llosgi, ac heb gariad gennyf, nid yw ddim llesâd i mi. 4 Y mae cariad yn hirymaros, yn gymwynasgar; cariad nid yw yn cenfigennu; nid yw cariad yn ymffrostio, nid yw yn ymchwyddo, 5 Nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd, nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun, ni chythruddir, ni feddwl ddrwg; 6 Nid yw lawen am anghyfiawnder, ond cydlawenhau y mae â’r gwirionedd; 7 Y mae yn dioddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim. 8 Cariad byth ni chwymp ymaith: eithr pa un bynnag ai proffwydoliaethau, hwy a ballant; ai tafodau, hwy a beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiflanna. 9 Canys o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn proffwydo. 10 Eithr pan ddelo’r hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddileir. 11 Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y llefarwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn: ond pan euthum yn ŵr, mi a rois heibio bethau bachgennaidd. 12 Canys gweled yr ydym yr awr hon trwy ddrych, mewn dameg; ond yna, wyneb yn wyneb: yn awr yr adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf megis y’m hadwaenir. 13 Yr awr hon y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn; a’r mwyaf o’r rhai hyn yw cariad.
21 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi. 22 Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o’i enau ef. A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw mab Joseff? 23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn hollol y dywedwch y ddihareb hon wrthyf, Y meddyg, iachâ di dy hun: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yng Nghapernaum, gwna yma hefyd yn dy wlad dy hun. 24 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nad yw un proffwyd yn gymeradwy yn ei wlad ei hun. 25 Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Eleias, pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy’r holl dir; 26 Ac nid at yr un ohonynt yr anfonwyd Eleias, ond i Sarepta yn Sidon, at wraig weddw. 27 A llawer o wahangleifion oedd yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd; ac ni lanhawyd yr un ohonynt, ond Naaman y Syriad. 28 A’r rhai oll yn y synagog, wrth glywed y pethau hyn, a lanwyd o ddigofaint; 29 Ac a godasant i fyny, ac a’i bwriasant ef allan o’r ddinas, ac a’i dygasant ef hyd ar ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr. 30 Ond efe, gan fyned trwy eu canol hwynt, a aeth ymaith;
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.