Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
6 Dy orsedd di, O Dduw, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di. 7 Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy na’th gyfeillion. 8 Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o’r palasau ifori, â’r rhai y’th lawenhasant. 9 Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir. 10 Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad. 11 A’r Brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef. 12 Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb. 13 Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi. 14 Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti. 15 Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin. 16 Dy feibion fydd yn lle dy dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir. 17 Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedlaeth ac oes: am hynny y bobl a’th foliannant byth ac yn dragywydd.
3 Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos eto, câr wraig, (hoff gan ei chyfaill, a hithau wedi torri ei phriodas,) yn ôl cariad yr Arglwydd ar feibion Israel, a hwythau yn edrych ar ôl duwiau dieithr, ac yn hoffi costrelau gwin. 2 A mi a’i prynais hi i mi er pymtheg o arian, ac er homer o haidd, a hanner homer o haidd: 3 A dywedais wrthi, Aros amdanaf lawer o ddyddiau; na phuteinia, ac na fydd i ŵr arall: a minnau a fyddaf felly i tithau. 4 Canys llawer o ddyddiau yr erys meibion Israel heb frenin, a heb dywysog, a heb aberth, a heb ddelw, a heb effod, a heb deraffim. 5 Wedi hynny y dychwel meibion Israel, ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw, a Dafydd eu brenin; ac a barchant yr Arglwydd a’i ddaioni yn y dyddiau diwethaf.
23 Ac yr wyf fi yn galw Duw yn dyst ar fy enaid, mai er eich arbed chwi na ddeuthum eto i Gorinth. 24 Nid am ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi, ond yr ydym yn gyd-weithwyr i’ch llawenydd: oblegid trwy ffydd yr ydych yn sefyll.
2 Eithr mi a fernais hyn ynof fy hunan, na ddelwn drachefn mewn tristwch atoch. 2 Oblegid os myfi a’ch tristâf chwi, pwy yw’r hwn a’m llawenha i, ond yr hwn a dristawyd gennyf fi? 3 Ac mi a ysgrifennais hyn yma atoch, fel, pan ddelwn, na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhau; gan hyderu amdanoch oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll. 4 Canys o orthrymder mawr, a chyfyngder calon, yr ysgrifennais atoch â dagrau lawer; nid fel y’ch tristeid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag atoch chwi. 5 Ac os gwnaeth neb dristáu, ni wnaeth efe i mi dristáu, ond o ran; rhag i mi bwyso arnoch chwi oll. 6 Digon i’r cyfryw ddyn y cerydd yma, a ddaeth oddi wrth laweroedd. 7 Yn gymaint ag y dylech, yn y gwrthwyneb, yn hytrach faddau iddo, a’i ddiddanu; rhag llyncu’r cyfryw gan ormod tristwch. 8 Am hynny yr ydwyf yn atolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag ato ef. 9 Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais, fel y gwybyddwn brawf ohonoch, a ydych ufudd ym mhob peth. 10 I’r hwn yr ydych yn maddau dim iddo, yr wyf finnau: canys os maddeuais ddim, i’r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, yng ngolwg Crist; 11 Fel na’n siomer gan Satan: canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.