Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
46 A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau’r Arglwydd, 47 A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr. 48 Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a’m geilw yn wynfydedig. 49 Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef. 50 A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a’i hofnant ef. 51 Efe a wnaeth gadernid â’i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon. 52 Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’u heisteddfâu, ac a ddyrchafodd y rhai isel radd. 53 Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion. 54 Efe a gynorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd; 55 Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a’i had, yn dragywydd.
2 A Hanna a weddïodd, ac a ddywedodd, Llawenychodd fy nghalon yn yr Arglwydd; fy nghorn a ddyrchafwyd yn yr Arglwydd: fy ngenau a ehangwyd ar fy ngelynion: canys llawenychais yn dy iachawdwriaeth di. 2 Nid sanctaidd neb fel yr Arglwydd; canys nid dim hebot ti: ac nid oes graig megis ein Duw ni. 3 Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel; na ddeued allan ddim balch o’ch genau: canys Duw gwybodaeth yw yr Arglwydd, a’i amcanion ef a gyflawnir. 4 Bwâu y cedyrn a dorrwyd, a’r gweiniaid a ymwregysasant â nerth. 5 Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara; a’r rhai newynog a beidiasant; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith, a llesgáu yr aml ei meibion. 6 Yr Arglwydd sydd yn marwhau, ac yn bywhau: efe sydd yn dwyn i waered i’r bedd, ac yn dwyn i fyny. 7 Yr Arglwydd sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi; yn darostwng, ac yn dyrchafu. 8 Efe sydd yn cyfodi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r tomennau, i’w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr Arglwydd colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt. 9 Traed ei saint a geidw efe, a’r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch: canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr. 10 Y rhai a ymrysonant â’r Arglwydd, a ddryllir: efe a darana yn eu herbyn hwynt o’r nefoedd: yr Arglwydd a farn derfynau y ddaear; ac a ddyry nerth i’w frenin, ac a ddyrchafa gorn ei eneiniog.
11 Ac wedi eu dyfod yn agos i Jerwsalem, i Bethffage a Bethania, hyd fynydd yr Olewydd, efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, 2 Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymaith i’r pentref sydd gyferbyn â chwi: ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb; gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ymaith. 3 Ac os dywed neb wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho; ac yn ebrwydd efe a’i denfyn yma. 4 A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws oddi allan, mewn croesffordd; ac a’i gollyngasant ef yn rhydd. 5 A rhai o’r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi, yn gollwng yr ebol yn rhydd? 6 A hwy a ddywedasant wrthynt fel y gorchmynasai yr Iesu: a hwy a adawsant iddynt fyned ymaith. 7 A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu, ac a fwriasant eu dillad arno; ac efe a eisteddodd arno. 8 A llawer a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd; ac eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar y ffordd. 9 A’r rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna; Bendigedig fyddo’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: 10 Bendigedig yw’r deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tad Dafydd: Hosanna yn y goruchaf. 11 A’r Iesu a aeth i mewn i Jerwsalem, ac i’r deml: ac wedi iddo edrych ar bob peth o’i amgylch, a hi weithian yn hwyr, efe a aeth allan i Fethania gyda’r deuddeg.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.