Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 6

I’r Pencerdd ar Neginoth ar y Seminith, Salm Dafydd.

Arglwydd, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid. Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O Arglwydd; canys fy esgyrn a gystuddiwyd. A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, Arglwydd, pa hyd? Dychwel, Arglwydd, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd. Canys yn angau nid oes goffa amdanat: yn y bedd pwy a’th folianna? Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau. Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion. Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain. Clybu yr Arglwydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi. 10 Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.

Job 30:16-31

16 Am hynny yr ymdywallt fy enaid yn awr arnaf; dyddiau cystudd a ymaflasant ynof. 17 Y nos y tyllir fy esgyrn o’m mewn: a’m gïau nid ydynt yn gorffwys. 18 Trwy fawr nerth fy nghlefyd, fy ngwisg a newidiodd: efe a’m hamgylcha fel coler fy mhais. 19 Efe a’m taflodd yn y clai; ac euthum yn gyffelyb i lwch a lludw. 20 Yr ydwyf yn llefain arnat ti, ac nid ydwyt yn gwrando: yr ydwyf yn sefyll, ac nid ystyri wrthyf. 21 Yr wyt yn troi yn greulon yn fy erbyn; yr wyt yn fy ngwrthwynebu â nerth dy law. 22 Yr wyt yn fy nyrchafu i’r gwynt; yr ydwyt yn gwneuthur i mi farchogaeth arno, ac yr ydwyt yn toddi fy sylwedd. 23 Canys myfi a wn y dygi di fi i farwolaeth; ac i’r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw. 24 Diau nad estyn ef law i’r bedd, er bod gwaedd ganddynt yn ei ddinistr ef. 25 Oni wylais i dros yr hwn oedd galed ei fyd? oni ofidiodd fy enaid dros yr anghenog? 26 Pan edrychais am ddaioni, drygfyd a ddaeth: pan ddisgwyliais am oleuni, tywyllwch a ddaeth. 27 Fy ymysgaroedd a ferwasant, ac ni orffwysasant: dyddiau cystudd a’m rhagflaenasant. 28 Cerddais yn alarus heb yr haul: codais, a gwaeddais yn y gynulleidfa. 29 Yr ydwyf yn frawd i’r dreigiau, ac yn gyfaill i gywion yr estrys. 30 Fy nghroen a dduodd amdanaf, a’m hesgyrn a losgasant gan wres. 31 Aeth fy nhelyn hefyd yn alar, a’m horgan fel llais rhai yn wylo.

Ioan 4:46-54

46 Felly yr Iesu a ddaeth drachefn i Gana yng Ngalilea, lle y gwnaeth efe y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw bendefig, yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yng Nghapernaum.

47 Pan glybu hwn ddyfod o’r Iesu o Jwdea i Galilea, efe a aeth ato ef, ac a atolygodd iddo ddyfod i waered, a iacháu ei fab ef: canys yr oedd efe ymron marw. 48 Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef, Oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch. 49 Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, O Arglwydd, tyred i waered cyn marw fy machgen. 50 Iesu a ddywedodd wrtho ef, Dos ymaith; y mae dy fab yn fyw. A’r gŵr a gredodd y gair a ddywedasai Iesu wrtho, ac efe a aeth ymaith. 51 Ac fel yr oedd efe yr awron yn myned i waered, ei weision a gyfarfuant ag ef, ac a fynegasant, gan ddywedyd, Y mae dy fachgen yn fyw. 52 Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellhasai arno. A hwy a ddywedasant wrtho, Doe, y seithfed awr, y gadawodd y cryd ef. 53 Yna y gwybu’r tad mai’r awr honno oedd, yn yr hon y dywedasai Iesu wrtho ef, Y mae dy fab yn fyw. Ac efe a gredodd, a’i holl dŷ. 54 Yr ail arwydd yma drachefn a wnaeth yr Iesu, wedi dyfod o Jwdea i Galilea.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.