Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Neginoth ar y Seminith, Salm Dafydd.
6 Arglwydd, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid. 2 Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O Arglwydd; canys fy esgyrn a gystuddiwyd. 3 A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, Arglwydd, pa hyd? 4 Dychwel, Arglwydd, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd. 5 Canys yn angau nid oes goffa amdanat: yn y bedd pwy a’th folianna? 6 Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau. 7 Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion. 8 Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain. 9 Clybu yr Arglwydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi. 10 Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.
26 Yna holl bobl Jwda a gymerasant Usseia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad. 2 Efe a adeiladodd Eloth, ac a’i dug hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o’r brenin gyda’i dadau. 3 Mab un flwydd ar bymtheg oedd Usseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jecholeia o Jerwsalem. 4 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef. 5 Ac efe a ymgeisiodd â Duw yn nyddiau Sechareia, yr hwn oedd ganddo ddeall yng ngweledigaethau Duw: a’r dyddiau y ceisiodd efe yr Arglwydd, Duw a’i llwyddodd ef. 6 Ac efe a aeth allan, ac a ryfelodd yn erbyn y Philistiaid, ac a dorrodd i lawr fur Gath, a mur Jabne, a mur Asdod, ac a adeiladodd ddinasoedd yn Asdod, ac ymysg y Philistiaid. 7 A Duw a’i cynorthwyodd ef yn erbyn y Philistiaid, ac yn erbyn yr Arabiaid, y rhai oedd yn trigo yn Gur-baal, a’r Mehuniaid. 8 A’r Ammoniaid a roesant roddion i Usseia: a’i enw ef a aeth hyd y mynediad i’r Aifft; oherwydd efe a ymgryfhaodd yn ddirfawr. 9 Hefyd Usseia a adeiladodd dyrau yn Jerwsalem wrth borth y gongl, ac wrth borth y glyn, ac wrth droad y mur, ac a’u cadarnhaodd hwynt. 10 Ac efe a adeiladodd dyrau yn yr anialwch, ac a gloddiodd bydewau lawer; oblegid yr oedd ganddo lawer o anifeiliaid, yn y dyffryndir ac yn y gwastadedd: a llafurwyr a gwinllanwyr yn y mynyddoedd, ac yn Carmel: canys hoff oedd ganddo goledd y ddaear. 11 Ac yr oedd gan Usseia lu o ryfelwyr, yn myned allan yn fyddinoedd, yn ôl nifer eu cyfrif hwynt, trwy law Jeiel yr ysgrifennydd, a Maaseia y llywydd, dan law Hananeia, un o dywysogion y brenin. 12 Holl nifer pennau-cenedl y rhai cedyrn o nerth oedd ddwy fil a chwe chant. 13 A than eu llaw hwynt yr oedd llu grymus, tri chan mil a saith mil a phum cant, yn rhyfela â chryfder nerthol, i gynorthwyo’r brenin yr erbyn y gelyn. 14 Ac Usseia a ddarparodd iddynt, sef i’r holl lu, darianau, a gwaywffyn, a helmau, a llurigau, a bwâu, a thaflau i daflu cerrig. 15 Ac efe a wnaeth yn Jerwsalem offer trwy gelfyddyd y rhai cywraint, i fod ar y tyrau ac ar y conglau, i ergydio saethau a cherrig mawrion: a’i enw ef a aeth ymhell, canys yn rhyfedd y cynorthwywyd ef, nes ei gadarnhau.
16 Ond pan aeth yn gryf, ei galon a ddyrchafwyd i’w ddinistr ei hun; canys efe a droseddodd yn erbyn yr Arglwydd ei Dduw: ac efe a aeth i mewn i deml yr Arglwydd i arogldarthu ar allor yr arogl-darth. 17 Ac Asareia yr offeiriad a aeth i mewn ar ei ôl ef, a chydag ef bedwar ugain o offeiriaid yr Arglwydd, yn feibion grymus: 18 A hwy a safasant yn erbyn Usseia y brenin, ac a ddywedasant wrtho, Ni pherthyn i ti, Usseia, arogldarthu i’r Arglwydd, ond i’r offeiriaid meibion Aaron, y rhai a gysegrwyd i arogldarthu: dos allan o’r cysegr; canys ti a droseddaist, ac ni bydd hyn i ti yn ogoniant oddi wrth yr Arglwydd Dduw. 19 Yna y llidiodd Usseia, a’r arogl-darth i arogldarthu oedd yn ei law ef: a thra yr ydoedd efe yn llidiog yn erbyn yr offeiriaid, gwahanglwyf a gyfododd yn ei dalcen ef, yng ngŵydd yr offeiriaid yn nhŷ yr Arglwydd, gerllaw allor yr arogl-darth. 20 Ac edrychodd Asareia yr archoffeiriad a’r holl offeiriaid arno ef, ac wele, yr oedd efe yn wahanglwyfus yn ei dalcen, a gwnaethant iddo frysio oddi yno: ac yntau hefyd a frysiodd i fyned allan, oherwydd i’r Arglwydd ei daro ef. 21 Ac Usseia y brenin a fu wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac a drigodd yn wahanglwyfus mewn tŷ neilltuol; canys efe a dorasid ymaith o dŷ yr Arglwydd: a Jotham ei fab ef oedd ar dŷ y brenin, yn barnu pobl y wlad.
3 Pedr hefyd ac Ioan a aethant i fyny i’r deml ynghyd ar yr awr weddi, sef y nawfed. 2 A rhyw ŵr cloff o groth ei fam a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i’r deml. 3 Yr hwn, pan welodd efe Pedr ac Ioan ar fedr myned i mewn i’r deml, a ddeisyfodd gael elusen. 4 A Phedr yn dal sylw arno, gydag Ioan, a ddywedodd, Edrych arnom ni. 5 Ac efe a ddaliodd sylw arnynt, gan obeithio cael rhywbeth ganddynt. 6 Yna y dywedodd Pedr, Arian ac aur nid oes gennyf; eithr yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roddi i ti: Yn enw Iesu Grist o Nasareth, cyfod a rhodia. 7 A chan ei gymryd ef erbyn ei ddeheulaw, efe a’i cyfododd ef i fyny; ac yn ebrwydd ei draed ef a’i fferau a gadarnhawyd. 8 A chan neidio i fyny, efe a safodd, ac a rodiodd, ac a aeth gyda hwynt i’r deml, dan rodio, a neidio, a moli Duw. 9 A’r holl bobl a’i gwelodd ef yn rhodio, ac yn moli Duw. 10 Ac yr oeddynt hwy yn ei adnabod, mai hwn oedd yr un a eisteddai am elusen wrth borth Prydferth y deml: a hwy a lanwyd o fraw a synedigaeth am y peth a ddigwyddasai iddo.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.