Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm neu Gân o gysegriad tŷ Dafydd.
30 Mawrygaf di, O Arglwydd: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid. 2 Arglwydd fy Nuw, llefais arnat, a thithau a’m hiacheaist. 3 Arglwydd, dyrchefaist fy enaid o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll. 4 Cenwch i’r Arglwydd, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef. 5 Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd. 6 Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd. 7 O’th ddaioni, Arglwydd, y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus. 8 Arnat ti, Arglwydd, y llefais, ac â’r Arglwydd yr ymbiliais. 9 Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd? 10 Clyw, Arglwydd, a thrugarha wrthyf: Arglwydd, bydd gynorthwywr i mi. 11 Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd; 12 Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O Arglwydd fy Nuw, yn dragwyddol y’th foliannaf.
21 Ond os tlawd fydd, a’i law heb gyrhaeddyd hyn; yna cymered un oen, yn aberth dros gamwedd, i’w gyhwfanu, i wneuthur cymod drosto, ac un ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew yn fwyd‐offrwm, a log o olew; 22 A dwy durtur, neu ddau gyw colomen, y rhai a gyrhaeddo ei law: a bydded un yn bech‐aberth, a’r llall yn boethoffrwm. 23 A dyged hwynt yr wythfed dydd i’w lanhau ef at yr offeiriad, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd. 24 A chymered yr offeiriad oen yr offrwm dros gamwedd, a’r log olew, a chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 25 A lladded oen yr offrwm dros gamwedd; a chymered yr offeiriad o waed yr offrwm dros gamwedd, a rhodded ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau. 26 A thywallted yr offeiriad o’r olew ar gledr ei law aswy ei hun: 27 Ac â’i fys deau taenelled yr offeiriad o’r olew fyddo ar gledr ei law aswy, seithwaith gerbron yr Arglwydd. 28 A rhodded yr offeiriad o’r olew a fyddo ar gledr ei law, ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar y man y byddo gwaed yr offrwm dros gamwedd. 29 A’r rhan arall o’r olew fyddo ar gledr llaw yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir, i wneuthur cymod drosto gerbron yr Arglwydd. 30 Yna offrymed un o’r turturau, neu o’r cywion colomennod, sef o’r rhai a gyrhaeddo ei law ef; 31 Y rhai, meddaf, a gyrhaeddo ei law ef, un yn bech‐aberth, ac un yn boethoffrwm, ynghyd â’r bwyd‐offrwm: a gwnaed yr offeiriad gymod dros yr hwn a lanheir gerbron yr Arglwydd. 32 Dyma gyfraith yr un y byddo pla’r gwahanglwyf arno, yr hwn ni chyrraedd ei law yr hyn a berthyn i’w lanhad.
6 Ac a’r Iesu ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, 7 Daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a’i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford. 8 A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu’r golled hon? 9 Canys fe a allasid gwerthu’r ennaint hwn er llawer, a’i roddi i’r tlodion. 10 A’r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf. 11 Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi; a mi nid ydych yn ei gael bob amser. 12 Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i’m claddu i. 13 Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa amdani hi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.