Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 30

Salm neu Gân o gysegriad tŷ Dafydd.

30 Mawrygaf di, O Arglwydd: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid. Arglwydd fy Nuw, llefais arnat, a thithau a’m hiacheaist. Arglwydd, dyrchefaist fy enaid o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll. Cenwch i’r Arglwydd, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef. Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd. Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd. O’th ddaioni, Arglwydd, y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus. Arnat ti, Arglwydd, y llefais, ac â’r Arglwydd yr ymbiliais. Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd? 10 Clyw, Arglwydd, a thrugarha wrthyf: Arglwydd, bydd gynorthwywr i mi. 11 Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd; 12 Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O Arglwydd fy Nuw, yn dragwyddol y’th foliannaf.

Lefiticus 14:1-20

14 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, Dyma gyfraith y gwahanglwyfus, y dydd y glanheir ef. Dyger ef at yr offeiriad: A’r offeiriad a ddaw allan o’r gwersyll; ac edryched yr offeiriad: ac wele, os pla’r gwahanglwyf a iachaodd ar y gwahanglwyfus; Yna gorchmynned yr offeiriad i’r hwn a lanheir, gymryd dau aderyn y to, byw a glân, a choed cedr, ac ysgarlad, ac isop. A gorchmynned yr offeiriad ladd y naill aderyn y to mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog. A chymered efe yr aderyn byw, a’r coed cedr, a’r ysgarlad, a’r isop, a throched hwynt a’r aderyn byw hefyd yng ngwaed yr aderyn a laddwyd oddi ar y dwfr rhedegog. A thaenelled seithwaith ar yr hwn a lanheir oddi wrth y gwahanglwyf, a barned ef yn lân; yna gollynged yr aderyn byw yn rhydd ar wyneb y maes. A golched yr hwn a lanheir ei ddillad, ac eillied ei holl flew, ac ymolched mewn dwfr; a glân fydd: a deued wedi hynny i’r gwersyll, a thriged o’r tu allan i’w babell saith niwrnod. A’r seithfed dydd bydded iddo eillio ei holl flew, sef ei ben, a’i farf, ac aeliau ei lygaid; ie, eillied ei holl flew; a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; a glân fydd. 10 A’r wythfed dydd cymered ddau oen perffaith‐gwbl, ac un hesbin flwydd berffaith‐gwbl, a thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, ac un log o olew. 11 A gosoded yr offeiriad a lanhao, y gŵr a lanheir, a hwynt hefyd, gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. 12 A chymered yr offeiriad un hesbwrn, ac offrymed ef yn aberth dros gamwedd, a’r log o olew, a chyhwfaned hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 13 A lladded ef yr oen yn y lle y lladder y pech‐aberth, a’r poethoffrwm; sef yn y lle sanctaidd: oherwydd yr aberth dros gamwedd sydd eiddo’r offeiriad, yn gystal â’r pech‐aberth: sancteiddiolaf yw. 14 A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros gamwedd, a rhodded yr offeiriad ef ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau ef. 15 A chymered yr offeiriad o’r log olew, a thywallted ar gledr ei law aswy ei hun: 16 A gwlyched yr offeiriad ei fys deau yn yr olew fyddo ar ei law aswy, a thaenelled o’r olew â’i fys seithwaith gerbron yr Arglwydd. 17 Ac o weddill yr olew fyddo ar ei law, y dyd yr offeiriad ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar waed yr offrwm dros gamwedd. 18 A’r rhan arall o’r olew fyddo ar law yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr Arglwydd. 19 Ie, offrymed yr offeiriad aberth dros bechod, a gwnaed gymod dros yr hwn a lanheir oddi wrth ei aflendid; ac wedi hyny lladded y poethoffrwm. 20 Ac aberthed yr offeiriad y poethoffrwm, a’r bwyd‐offrwm, ar yr allor; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a glân fydd.

Actau 19:11-20

11 A gwyrthiau rhagorol a wnaeth Duw trwy ddwylo Paul: 12 Hyd oni ddygid at y cleifion, oddi wrth ei gorff ef, napgynau neu foledau; a’r clefydau a ymadawai â hwynt, a’r ysbrydion drwg a aent allan ohonynt.

13 Yna rhai o’r Iddewon crwydraidd, y rhai oedd gonsurwyr, a gymerasant arnynt enwi uwchben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ynddynt, enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Yr ydym ni yn eich tynghedu chwi trwy yr Iesu, yr hwn y mae Paul yn ei bregethu. 14 Ac yr oedd rhyw saith o feibion i Scefa, Iddew ac archoffeiriad, y rhai oedd yn gwneuthur hyn. 15 A’r ysbryd drwg a atebodd ac a ddywedodd, Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a adwaen; eithr pwy ydych chwi? 16 A’r dyn yr hwn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo, a ruthrodd arnynt, ac a’u gorchfygodd, ac a fu drwm yn eu herbyn; hyd oni ffoesant hwy allan o’r tŷ hwnnw, yn noethion ac yn archolledig. 17 A hyn a fu hysbys gan yr holl Iddewon a’r Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn preswylio yn Effesus; ac ofn a syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd. 18 A llawer o’r rhai a gredasent a ddaethant, ac a gyffesasant, ac a fynegasant eu gweithredoedd. 19 Llawer hefyd o’r rhai a fuasai yn gwneuthur rhodreswaith, a ddygasant eu llyfrau ynghyd, ac a’u llosgasant yng ngŵydd pawb: a hwy a fwriasant eu gwerth hwy, ac a’i cawsant yn ddengmil a deugain o ddarnau arian. 20 Mor gadarn y cynyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.