Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm neu Gân o gysegriad tŷ Dafydd.
30 Mawrygaf di, O Arglwydd: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid. 2 Arglwydd fy Nuw, llefais arnat, a thithau a’m hiacheaist. 3 Arglwydd, dyrchefaist fy enaid o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll. 4 Cenwch i’r Arglwydd, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef. 5 Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd. 6 Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd. 7 O’th ddaioni, Arglwydd, y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus. 8 Arnat ti, Arglwydd, y llefais, ac â’r Arglwydd yr ymbiliais. 9 Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd? 10 Clyw, Arglwydd, a thrugarha wrthyf: Arglwydd, bydd gynorthwywr i mi. 11 Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd; 12 Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O Arglwydd fy Nuw, yn dragwyddol y’th foliannaf.
13 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd, 2 Dyn (pan fyddo yng nghroen ei gnawd chwydd, neu gramen, neu ddisgleirder, a bod yng nghroen ei gnawd ef megis pla’r clwyf gwahanol,) a ddygir at Aaron yr offeiriad, neu at un o’i feibion ef yr offeiriaid. 3 A’r offeiriad a edrych ar y pla yng nghroen y cnawd: os y blewyn yn y pla fydd wedi troi yn wyn, a gwelediad y pla yn ddyfnach na chroen ei gnawd ef; pla gwahanglwyf yw hwnnw: a’r offeiriad a’i hedrych, ac a’i barn yn aflan. 4 Ond os y disgleirdeb fydd gwyn yng nghroen ei gnawd ef, ac heb fod yn is ei welediad na’r croen, a’i flewyn heb droi yn wyn; yna caeed yr offeiriad ar y clwyfus saith niwrnod. 5 A’r seithfed dydd edryched yr offeiriad ef: ac wele, os sefyll y bydd y pla yn ei olwg ef, heb ledu o’r pla yn y croen; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod eilwaith. 6 Ac edryched yr offeiriad ef yr ail seithfed dydd: ac wele, os bydd y pla yn odywyll, heb ledu o’r pla yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn lân: cramen yw honno: yna golched ei wisgoedd a glân fydd. 7 Ac os y gramen gan ledu a leda yn y croen, wedi i’r offeiriad ei weled, i’w farnu yn lân; dangoser ef eilwaith i’r offeiriad. 8 Ac os gwêl yr offeiriad, ac wele, ledu o’r gramen yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahanglwyf yw.
9 Pan fyddo ar ddyn bla gwahanglwyf, dyger ef at yr offeiriad; 10 Ac edryched yr offeiriad: yna, os chwydd gwyn a fydd yn y croen, a hwnnw wedi troi’r blewyn yn wyn, a dim cig noeth byw yn y chwydd; 11 Hen wahanglwyf yw hwnnw yng nghroen ei gnawd ef; a barned yr offeiriad ef yn aflan: na chaeed arno; oherwydd y mae efe yn aflan. 12 Ond os y gwahanglwyf gan darddu a dardda yn y croen, a gorchuddio o’r gwahanglwyf holl groen y clwyfus, o’i ben hyd ei draed, pa le bynnag yr edrycho’r offeiriad; 13 Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os y gwahanglwyf fydd yn cuddio ei holl gnawd ef; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: trodd yn wyn i gyd: glân yw. 14 A’r dydd y gwelir ynddo gig byw, aflan fydd. 15 Yna edryched yr offeiriad ar y cig byw, a barned ef yn aflan: aflan yw y cig byw hwnnw; gwahanglwyf yw. 16 Neu os dychwel y cig byw, a throi yn wyn; yna deued at yr offeiriad: 17 Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os trodd y pla yn wyn; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: glân yw efe.
7 Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megis tuag at feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu? 8 Eithr os heb gerydd yr ydych, o’r hwn y mae pawb yn gyfrannog; yna bastardiaid ydych, ac nid meibion. 9 Heblaw hynny, ni a gawsom dadau ein cnawd i’n ceryddu, ac a’u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd, a byw? 10 Canys hwynt‐hwy yn wir dros ychydig ddyddiau a’n ceryddent fel y gwelent hwy yn dda; eithr hwn er llesâd i ni, fel y byddem gyfranogion o’i sancteiddrwydd ef. 11 Eto ni welir un cerydd dros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i’r rhai sydd wedi eu cynefino ag ef. 12 Oherwydd paham cyfodwch i fyny’r dwylo a laesasant, a’r gliniau a ymollyngasant. 13 A gwnewch lwybrau union i’ch traed; fel na throer y cloff allan o’r ffordd, ond yr iachaer efe yn hytrach.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.