Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
29 Moeswch i’r Arglwydd, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. 2 Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd. 3 Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd: Duw y gogoniant a darana; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion. 4 Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch. 5 Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus. 6 Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn. 7 Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân. 8 Llef yr Arglwydd a wna i’r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu. 9 Llef yr Arglwydd a wna i’r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef. 10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd. 11 Yr Arglwydd a ddyry nerth i’w bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangnefedd.
2 Yna dyddiau Dafydd a nesasant i farw; ac efe a orchmynnodd i Solomon ei fab, gan ddywedyd, 2 Myfi wyf yn myned ffordd yr holl ddaear; am hynny ymnertha, a bydd ŵr; 3 A chadw gadwraeth yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, i gadw ei ddeddfau ef, a’i orchmynion, a’i farnedigaethau, a’i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses; fel y llwyddych yn yr hyn oll a wnelych, ac i ba le bynnag y tröech: 4 Fel y cyflawno yr Arglwydd ei air a lefarodd efe wrthyf, gan ddywedyd, Os dy feibion a gadwant eu ffyrdd, i rodio ger fy mron mewn gwirionedd, â’u holl galon, ac â’u holl enaid, ni thorrir (eb efe) na byddo ohonot ŵr ar orseddfainc Israel.
10 Felly Dafydd a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd. 11 A’r dyddiau y teyrnasodd Dafydd ar Israel oedd ddeugain mlynedd: saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
12 A Solomon a eisteddodd ar orseddfainc Dafydd ei dad; a’i frenhiniaeth ef a sicrhawyd yn ddirfawr.
5 Bu hefyd, a’r bobl yn pwyso ato i wrando gair Duw, yr oedd yntau yn sefyll yn ymyl llyn Gennesaret; 2 Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn: a’r pysgodwyr a aethent allan ohonynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau. 3 Ac efe a aeth i mewn i un o’r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddi wrth y tir. Ac efe a eisteddodd, ac a ddysgodd y bobloedd allan o’r llong. 4 A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i’r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa. 5 A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Feistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim: eto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd. 6 Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o bysgod: a’u rhwyd hwynt a rwygodd. 7 A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion, oedd yn y llong arall, i ddyfod i’w cynorthwyo hwynt. A hwy a ddaethant; a llanwasant y ddwy long, onid oeddynt hwy ar soddi. 8 A Simon Pedr, pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau’r Iesu, gan ddywedyd, Dos ymaith oddi wrthyf; canys dyn pechadurus wyf fi, O Arglwydd. 9 Oblegid braw a ddaethai arno ef, a’r rhai oll oedd gydag ef, oherwydd yr helfa bysgod a ddaliasent hwy; 10 A’r un ffunud ar Iago ac Ioan hefyd, meibion Sebedeus, y rhai oedd gyfranogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion. 11 Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a’i dilynasant ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.