Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
110 Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed. 2 Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Seion: Ilywodraetha di yng nghanol dy elynion. 3 Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti. 4 Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec. 5 Yr Arglwydd ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint. 6 Efe a farn ymysg y cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad. 7 Efe a yf o’r afon ar y ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.
7 A dywedodd yr Arglwydd, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aifft, a’u gwaedd o achos eu meistriaid gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau. 8 A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Eifftiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid. 9 Ac yn awr wele, gwaedd meibion Israel a ddaeth ataf fi; a hefyd mi a welais y gorthrymder â’r hwn y gorthrymodd yr Eifftiaid hwynt. 10 Tyred gan hynny yn awr, a mi a’th anfonaf at Pharo; fel y dygech fy mhobl, plant Israel, allan o’r Aifft.
11 A dywedodd Moses wrth Dduw, Pwy ydwyf fi, fel yr awn i at Pharo, ac y dygwn blant Israel allan o’r Aifft? 12 Dywedodd yntau, Diau y byddaf gyda thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a’th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o’r Aifft, chwi a wasanaethwch Dduw ar y mynydd hwn. 13 A dywedodd Moses wrth Dduw, Wele, pan ddelwyf fi at feibion Israel, a dywedyd wrthynt, Duw eich tadau a’m hanfonodd atoch; os dywedant wrthyf, Beth yw ei enw ef? beth a ddywedaf fi wrthynt? 14 A Duw a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel; YDWYF a’m hanfonodd atoch. 15 A Duw a ddywedodd drachefn wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob, a’m hanfonodd atoch: dyma fy enw byth, a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.
39 Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Ein tad ni yw Abraham. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech. 40 Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd, yr hwn a glywais i gan Dduw: hyn ni wnaeth Abraham. 41 Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi. Am hynny y dywedasant wrtho, Nid trwy buteindra y cenhedlwyd ni: un Tad sydd gennym ni, sef Duw. 42 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Pe Duw fyddai eich Tad, chwi a’m carech i: canys oddi wrth Dduw y deilliais, ac y deuthum i; oblegid nid ohonof fy hun y deuthum i, ond efe a’m hanfonodd i. 43 Paham nad ydych yn deall fy lleferydd i? am na ellwch wrando fy ymadrodd i. 44 O’ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo. 45 Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd, nid ydych yn credu i mi. 46 Pwy ohonoch a’m hargyhoedda i o bechod? Ac od wyf fi yn dywedyd y gwir, paham nad ydych yn credu i mi? 47 Y mae’r hwn sydd o Dduw, yn gwrando geiriau Duw: am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad ydych o Dduw. 48 Yna yr atebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, Onid da yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a bod gennyt gythraul? 49 Yr Iesu a atebodd, Nid oes gennyf gythraul; ond yr wyf fi yn anrhydeddu fy Nhad, ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu innau. 50 Ac nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant fy hun: y mae a’i cais, ac a farn. 51 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Os ceidw neb fy ymadrodd i, ni wêl efe farwolaeth yn dragywydd. 52 Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Yr awron y gwyddom fod gennyt gythraul. Bu Abraham farw, a’r proffwydi; ac meddi di, Os ceidw neb fy ymadrodd i, nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd. 53 Ai mwy wyt ti nag Abraham ein tad ni, yr hwn a fu farw? a’r proffwydi a fuant feirw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun? 54 Yr Iesu a atebodd, Os wyf fi yn fy ngogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhad yw’r hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd, mai eich Duw chwi yw. 55 Ond nid adnabuoch chwi ef: eithr myfi a’i hadwaen ef. Ac os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a’i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef. 56 Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd i: ac efe a’i gwelodd hefyd, ac a lawenychodd. 57 Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Nid wyt ti ddengmlwydd a deugain eto, ac a welaist ti Abraham? 58 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Cyn bod Abraham, yr wyf fi. 59 Yna hwy a godasant gerrig i’w taflu ato ef. A’r Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o’r deml, gan fyned trwy eu canol hwynt: ac felly yr aeth efe heibio.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.