Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
110 Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed. 2 Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Seion: Ilywodraetha di yng nghanol dy elynion. 3 Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti. 4 Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec. 5 Yr Arglwydd ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint. 6 Efe a farn ymysg y cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad. 7 Efe a yf o’r afon ar y ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.
11 A bu yn y dyddiau hynny, pan aeth Moses yn fawr, fyned ohono allan at ei frodyr, ac edrych ar eu beichiau hwynt, a gweled Eifftwr yn taro Hebrëwr, un o’i frodyr. 12 Ac efe a edrychodd yma ac acw; a phan welodd nad oedd yno neb, efe a laddodd yr Eifftiad, ac a’i cuddiodd yn y tywod. 13 Ac efe a aeth allan yr ail ddydd; ac wele ddau Hebrëwr yn ymryson: ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd ar y cam, Paham y trewi dy gyfaill? 14 A dywedodd yntau, Pwy a’th osododd di yn bennaeth ac yn frawdwr arnom ni? ai meddwl yr wyt ti fy lladd i, megis y lleddaist yr Eifftiad? A Moses a ofnodd, ac a ddywedodd, Diau y gwyddir y peth hyn. 15 Pan glybu Pharo y peth hyn, efe a geisiodd ladd Moses: ond Moses a ffodd rhag Pharo, ac a arhosodd yn nhir Midian; ac a eisteddodd wrth bydew. 16 Ac i offeiriad Midian yr ydoedd saith o ferched: a’r rhai hynny a ddaethant ac a dynasant ddwfr, ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhau defaid eu tad. 17 Ond y bugeiliaid a ddaethant ac a’u gyrasant ymaith: yna y cododd Moses, ac a’u cynorthwyodd hwynt, ac a ddyfrhaodd eu praidd hwynt. 18 Yna y daethant at Reuel eu tad: ac efe a ddywedodd, Paham y daethoch heddiw cyn gynted? 19 A hwy a ddywedasant, Eifftwr a’n hachubodd ni o law y bugeiliaid; a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd i ni, ac a ddyfrhaodd y praidd. 20 Ac efe a ddywedodd wrth ei ferched, Pa le y mae efe? paham y gollyngasoch ymaith y gŵr? Gelwch arno, a bwytaed fara. 21 A bu Moses fodlon i drigo gyda’r gŵr: ac yntau a roddodd Seffora ei ferch i Moses. 22 A hi a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Gersom: Oherwydd dieithr (eb efe) a fûm i mewn gwlad ddieithr.
23 Ac yn ôl dyddiau lawer, bu farw brenin yr Aifft; a phlant Israel a ucheneidiasant oblegid y caethiwed, ac a waeddasant; a’u gwaedd hwynt a ddyrchafodd at Dduw, oblegid y caethiwed. 24 A Duw a glybu eu huchenaid hwynt; a Duw a gofiodd ei gyfamod ag Abraham, ag Isaac, ac â Jacob. 25 A Duw a edrychodd ar blant Israel; Duw hefyd a gydnabu â hwynt.
27 Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aifft, heb ofni llid y brenin: canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig. 28 Trwy ffydd y gwnaeth efe y pasg, a gollyngiad y gwaed, rhag i’r hwn ydoedd yn dinistrio’r rhai cyntaf‐anedig gyffwrdd â hwynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.