Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 110

Salm Dafydd.

110 Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed. Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Seion: Ilywodraetha di yng nghanol dy elynion. Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti. Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec. Yr Arglwydd ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint. Efe a farn ymysg y cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad. Efe a yf o’r afon ar y ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.

Exodus 1:22-2:10

22 A Pharo a orchmynnodd i’w holl bobl, gan ddywedyd, Pob mab a’r a enir, bwriwch ef i’r afon; ond cedwch yn fyw bob merch.

Yna gŵr o dŷ Lefi a aeth, ac a briododd ferch i Lefi. A’r wraig a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab: a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe, hi a’i cuddiodd ef dri mis. A phan na allai hi ei guddio ef yn hwy, hi a gymerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg; ac a osododd y bachgen ynddo, ac a’i rhoddodd ymysg yr hesg ar fin yr afon. A’i chwaer ef a safodd o bell, i gael gwybod beth a wneid iddo ef.

A merch Pharo a ddaeth i waered i’r afon i ymolchi; (a’i llancesau oedd yn rhodio gerllaw yr afon;) a hi a ganfu’r cawell yng nghanol yr hesg, ac a anfonodd ei llawforwyn i’w gyrchu ef. Ac wedi iddi ei agoryd, hi a ganfu’r bachgen; ac wele y plentyn yn wylo: a hi a dosturiodd wrtho, ac a ddywedodd, Un o blant yr Hebreaid yw hwn. Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrth ferch Pharo, A af fi i alw atat famaeth o’r Hebreësau, fel y mago hi y bachgen i ti? A merch Pharo a ddywedodd wrthi, Dos. A’r llances a aeth ac a alwodd fam y bachgen. A dywedodd merch Pharo wrthi, Dwg ymaith y bachgen hwn, a maga ef i mi, a minnau a roddaf i ti dy gyflog. A’r wraig a gymerodd y bachgen, ac a’i magodd. 10 Pan aeth y bachgen yn fawr, hi a’i dug ef i ferch Pharo; ac efe a fu iddi yn fab: a hi a alwodd ei enw ef Moses; Oherwydd (eb hi) o’r dwfr y tynnais ef.

Hebreaid 11:23-26

23 Trwy ffydd, Moses, pan anwyd, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos eu bod yn ei weled yn fachgen tlws: ac nid ofnasant orchymyn y brenin. 24 Trwy ffydd, Moses, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharo; 25 Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser; 26 Gan farnu yn fwy golud ddirmyg Crist na thrysorau’r Aifft: canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gobrwy.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.